S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Pecyn y Wasg W46: 7 Tachwedd - 13 Tachwedd

1. Anrhegion Melys Richard Holt

Mae'r cogydd patisserie penigamp Richard Holt yn creu cacennau unigryw ac arallfydol er mwyn dweud diolch a dathlu pobl arbennig. Cyfres newydd.

2. Adre

Nia Parry sy'n cael y pleser o fusnesa yn nhai rhai o enwogion Cymru yn y gyfres newydd o Adre. Y tro hwn teithiwn i Ben Llŷn i gartref y gyflwynwraig ac awdures Anni Llŷn.

3. Jonathan

Mae'r gyfres boblogaidd yn dychwelyd gyda gwesteion enwog, gemau heriol ac eitemau doniol i geisio dod â blas o hwyl penwythnos gêm ryngwladol i stafelloedd byw'r genedl.

4. Dechrau Canu Dechrau Canmol

Mae Nia Roberts yn ymweld â Lerpwl mewn rhaglen arbennig ar gyfer Sul y Cofio. Dysgwn mwy am hanes y plant a ddaeth fel faciwîs i gefn gwlad Cymru a'r cysylltiadau cryf rhwng y ddinas a Gogledd Cymru.

HEFYD

Pobol y Cwm

Be' sy'n digwydd yng Nghwmderi?

Rownd a Rownd

Cyfle i ddal i fyny â bywyd yng Nglanrafon.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?