S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Pecyn y Wasg W52: 19 Rhagfyr - 25 Rhagfyr

Nadolig ar S4C

Ymunwch â ni dros y Nadolig am lond sach o raglenni arbennig ar gyfer y teulu cyfan.

Bydd cyfle i ddal i fyny gydag athrawon a disgyblion go arbennig yn 'Dolig Ysgol Ni: Maesincla ac i ail-ymweld a'r cymeriad hoffus Ken Hughes yn rhaglen Ken Hughes yn Cadw 'Dolig i Fynd.

I deuluoedd gyda phlant ifanc mae ffilm animeiddiedig hudolus Sol sy'n adrodd stori bachgen ifanc sy'n dod o hyd i oleuni mewn byd tywyll.

Bydd y cogydd Chris Roberts yn cynnig llond plât o hwyl yn 'Dolig Epic Chris a bydd Al Lewis yn ein diddanu yn y rhaglen Nadolig Al Lewis.

Mae rhywbeth hefyd i'r rhai sy'n mwynhau chwaraeon dros yr Ŵyl.

Cymerwch gipolwg ar ein harlwy - bydd rhywbeth i blesio pawb!

HEFYD

Pobol y Cwm

Be' sy'n digwydd yng Nghwmderi?

Rownd a Rownd

Cyfle i ddal i fyny â bywyd yng Nglanrafon.

Dechrau Canu, Dechrau Canmol

Darganfyddwch fwy am y rhaglen boblogaidd hon trwy ddarllen y cylchlythyr ar-lein.

Gan bawb o S4C – Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?