S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Pecyn y Wasg W10: 6 Mawrth - 12 Mawrth

1.Iaith ar Daith

Chwe seleb sydd eisiau dysgu Cymraeg, chwe mentor adnabyddus a llwyth o sialensiau i brofi eu sgiliau newydd. Y cyflwynydd rhaglenni natur Steve Backshall yw'r cyntaf i fynd ar daith fythgofiadwy gyda'i fentor Iolo Williams.

TX: Nos Sul 7 Mawrth 8.00, S4C

2. Prif Weinidog mewn Pandemig

Rhaglen ddogfen sydd yn rhoi cyfle unigryw am gipolwg tu ôl y llen ar fywyd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, y dyn sydd â'n dyfodol yn ei ddwylo.

TX: Nos Sul 7 Mawrth, 9.00, S4C

3. Y Llinell Las

Cyfres sy'n dilyn Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru. Yr wythnos hon, ymosodiadau yn erbyn yr Heddlu yw'r ffocws, rhywbeth sydd yn digwydd yn amlach nag erioed i heddweision.

TX: Nos Fawrth 9 Mawrth 9.00, S4C

HEFYD

Pobol y Cwm

Be' sy'n digwydd yng Nghwmderi?

Rownd a Rownd

Cyfle i ddal i fyny â bywyd yng Nglanrafon.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?