S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Pecyn y Wasg W23: 5 Mehefin - 11 Mehefin

1. Pobl y Môr

Yn arwain at wythnos arbennig yn dathlu traethau Cymru, bydd y gyfres newydd hon yn dilyn y rhai sydd â halen yn eu gwaed mewn sawl ffordd ac mewn sawl ardal glan môr ar draws Cymru.

TX: Nos Wener, 11 Mehefin, 8.25, S4C

2. Dan Do

Bydd Aled Samuel a'r cynllunydd Mandy Watkins yn mynd â ni ar hyd a lled Cymru i fusnesu mewn gwahanol fathau o gartrefi hyfryd, chwaethus a diddorol. Cyfres newydd.

TX: Nos Fercher 9 Mehefin 9.00, S4C

3. Y Brodyr Cabango

Rhaglen arbennig yn dilyn y brodyr Ben a Theo Cabango o Gaerdydd, dau ddyn ifanc uchelgeisiol sy'n anelu at y brig yn eu campau.

Mae Ben sy'n chwarae i glwb Abertawe, wedi ei ddewis yng ngharfan Cymru ar gyfer UEFA EURO 2020; ac mae'r brawd bach Theo, sy'n rhan o Academi Gleision Caerdydd, yn gobeithio efelychu ei frawd drwy gwisgo'r crys coch un diwrnod.

TX: Nos Fawrth, 8 Mehefin, 9.00, S4C

HEFYD

Pobol y Cwm

Be' sy'n digwydd yng Nghwmderi?

Rownd a Rownd

Cyfle i ddal i fyny â bywyd yng Nglanrafon.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?