S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Pecyn y Wasg W28: 10 Gorffennaf - 16 Gorffennaf
Wythnos Traethau S4C

Byddwch yn barod i fynd ar drip i lan y môr. Am wythnos gyfan bydd S4C yn cynnig gwledd o raglenni difyr yn dathlu traethau gorau Cymru.

Rhwng 12-17 Gorffennaf, trwy raglenni dogfen, materion cyfoes ac adloniant, cawn fwrw golwg ar rai o lannau môr hyfrytaf Cymru, a bydd un ohonynt yn lleoliad i raglen fyw go arbennig o Priodas Pum Mil.

1. Sgwrs Dan y Lloer Ar Y Traeth

Pennod arbennig awr o hyd gydag Elin Fflur yn cael hanes gyrfa a bywyd lliwgar y digrifwr a'r canwr o Glyn Nedd, Max Boyce.

TX: Nos Lun 12 Gorffennaf 9.00, S4C

2. DRYCH: Y Bermo

Rhaglen ddogfen yn dilyn trigolion tref glan môr unigryw sy'n gorwedd yng nghysgod Cadair Idris.

TX: Nos Fawrth 13 Gorffennaf 9.00, S4C

3. Am Dro! Ar Lan y Môr

Mewn rhifyn arbennig cawn ein tywys ar hyd pedair taith arfordirol ddifyr.

TX: Nos Fercher 14 Gorffennaf 9.00, S4C

4. Cynefin

Mae'r tîm yn ymweld a Nefyn i ddarganfod mwy am hanes morwrol y dref a'r ardal.

TX: Nos Iau 15 Gorffennaf 9.00, S4C

5. Priodas Pum Mil O'r Traeth

Bydd Trystan Ellis-Morris ac Emma Walford yn eu holau gyda her go anarferol – trefnu priodas byw ar un o draethau gogoneddus Cymru.

TX: Nos Wener 16 Gorffennaf 7.00 ac 8.00, S4C

HEFYD...

Drwy gydol yr wythnos o nos Lun i Gwener bydd cyfres Glannau Cymru o'r Awyr yn rhoi golwg llygad barcud i ni o'n traethau, wrth deithio i wahanol rannau o'r arfordir; o Bontydd Hafren hyd at Ogledd Ddwyrain Cymru.

Bydd modd gwylio'r daith ryfeddol gyfan hefyd ar ddydd Sadwrn 17 Gorffennaf gan ddechrau am 9.30 y bore.

Bydd amryw o raglenni eraill y sianel yn mynd i ysbryd yr wythnos forwrol hefyd, wrth i Prynhawn Da a Heno ddarlledu o draeth Llanelli, ac eitemau sydd â chysylltiad â'r môr ar raglen Garddio a Mwy.

Noddir wythnos Traethau Cymru S4C gan Croeso Cymru.

HEFYD

Pobol y Cwm

Be' sy'n digwydd yng Nghwmderi?

Rownd a Rownd

Cyfle i ddal i fyny â bywyd yng Nglanrafon.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?