S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Pecyn y Wasg W25: 18 Mehefin - 24 Mehefin

1. DRYCH: Bois yr Academi

Rhaglen ddogfen sy'n camu mewn i fyd academi pêl droed Abertawe i ddweud stori tri bachgen talentog sydd yn gobeithio bod yn yr un y cant o chwaraewyr academi sydd yn llwyddo i chwarae ar y lefel broffesiynol.

TX: Nos Fawrth 21 Mehefin 9.00, S4C

2. Am Dro

Yr wythnos hon fe awn o Bancyfelin i Flaenau Ffestiniog, o Ddolgellau i Gaerdydd dan arweiniad pedwar sy'n falch iawn o'u milltir sgwâr. Yn cymryd eu tro i dywys taith, cawn glywed straeon, hanes a chwedlau lleol yr arweinyddion.

TX: Nos Sul 19 Mehefin 8.00, S4C

3. Dan Do

Cyfres newydd gydag Aled Sam a Mandy Watkins yn busnesa yng nghartrefi mwyaf difyr ac atyniadol Cymru – o'r anferth i'r bychan, a phob un yn llawn awyrgylch a stamp unigryw eu perchnogion.

TX: Nos Fercher 22 Mehefin, 8.25, S4C

HEFYD

Pobol y Cwm

Be' sy'n digwydd yng Nghwmderi?

Rownd a Rownd

Cyfle i ddal i fyny â bywyd yng Nglanrafon.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?