S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dwsin o enwebiadau Celtaidd i raglenni S4C

19 Ionawr 2010

Mae’r ffilm bwerus Martha, Jac a Sianco, addasiad o nofel afaelgar Caryl Lewis, yn un o 12 o raglenni S4C sydd wedi eu henwebu am wobrau yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2010 a gynhelir yn Newry, Gogledd Iwerddon ym mis Ebrill.

Enillodd y ffilm, sy’n dilyn bywyd dau frawd a chwaer yn byw ar fferm deuluol yng ngorllewin Cymru, chwe gwobr Bafta Cymru llynedd. Fe enwebwyd y ffilm, a gynhyrchwyd gan gwmni Apollo, rhan o Grŵp Boomerang, yn y categori Drama Sengl Hir yr Ŵyl Geltaidd.

Enwebwyd y rhaglen ddogfen Carwyn, cynhyrchiad Green Bay Media am fywyd arwr y byd rygbi, Carwyn James a’r rhaglen yn y gyfres O Flaen Dy Lygaid am daith ddadleuol tîm y Llewod i Dde Affrig yn ’74, cynhyrchiad BBC Cymru i S4C, yn y categori Chwaraeon.

Cyfres ddwy ran aeth â saith o sêr Cymreig, gan gynnwys y gantores opera, Shân Cothi, i weithio fel cowbois go iawn ar ranch yn Arizona, yw Y 7 Magnifico a Matthew Rhys, cynhyrchiad Boomerang i S4C. Enwebwyd y gyfres yn y categori Adloniant Ffeithiol.

Y soprano enwog o Abertawe, Elin Manahan Thomas sy’n cyflwyno hanes y cyfansoddwr dylanwadol o Awstria, Joseph Haydn yn y rhaglen Papa Haydn, cynhyrchiad P.O.P.1 i S4C, a enwebwyd yng nghategori'r Celfyddydau.

Stori merch am frwydr ei thad yn erbyn cancr yw Dad a Fi, cynhyrchiad Fiction Factory, a enwebwyd yn y categori rhaglenni Ffeithiol Sengl.

Enwebwyd dwy o raglenni S4C yn y categori Adloniant - Sioe Dolig PC Leslie Wynne, a gynhyrchwyd gan Boomerang, a chyfres cystadleuaeth y corau, Côr Cymru 2009, cynhyrchiad Rondo.

Stori addysg drwy’r iaith Gymraeg oedd cynnwys Trip yr Ysgol Gymraeg gyda’r chwaraewr rygbi Nicky Robinson yn olrhain yr hanes. Enwebwyd y rhaglen, a gynhyrchwyd i S4C gan ITV Cymru, yn y categori Addysg.

Enwebwyd Y Byd ar Bedwar, cynhyrchiad ITV Cymru, yn y categori Materion Cyfoes, am raglen ar y sefyllfa wleidyddol gymhleth yn Gaza.

Rhaglen animeiddio i blant yw Igam Ogam, cynhyrchiad cwmni Calon, ac un o’r enwebiadau yn y categori Animeiddio. Yn y categori Ieuenctid, enwebwyd rhaglen gerddoriaeth bop a roc S4C, Bandit, sy’n cael ei gwneud gan Boomerang.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Rydym yn falch iawn bod cymaint o’n cynyrchiadau wedi’u henwebu unwaith eto eleni ar gyfer gwobrau yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd. Mae’r rhestr yn adlewyrchiad o’r amrywiaeth a’r safon rhaglenni sydd yn cael eu cynnig ar y sianel. Hoffwn longyfarch yr holl dimau talentog sydd wedi cynhyrchu’r rhaglenni yma ymhlith cwmnïau’r sector annibynnol, BBC Cymru ac ITV Cymru.”

Diwedd

RHESTR ENWEBIADAU S4C

Adloniant Ffeithiol

Y 7 Magnifico a Matthhew Rhys

Boomerang

Rhaglen Sengl Ffeithiol

Dad a Fi

Fiction Factory

Chwaraeon

Carwyn

Green Bay Media

O Flaen Dy Lygaid: Llewod ‘74

BBC Cymru

Celfyddydau

Papa Haydn

P.O.P.1

Animeiddio

Igam Ogam

Calon

Addysg

Trip yr Ysgol Gymraeg

ITV Cymru

Ieuenctid

Bandit

Boomerang Plus

Adloniant

Sioe Dolig PC Leslie Wynne

Boomerang

Côr Cymru 2009

Rondo

Drama Sengl Hir

Martha, Jac a Sianco

Apollo

Boomerang

Materion Cyfoes

Y Byd ar Bedwar – Gaza

ITV Cymru

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?