S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cwmnïau cyfathrebu o Gymru yn ennill gwobr Aur ym maes cyfathrebu

18 Mehefin 2010

 Cwmnïau cyfathrebu o Gymru yn ennill gwobr Aur ym maes cyfathrebu

Mae tri chwmni o Gaerdydd wedi ennill un o wobrau mawr y diwydiant cyfathrebu yng Ngwobrau Rhagoriaeth y CIPR, Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus, am ymgyrch i dynnu sylw gwylwyr S4C at y newid i ddigidol.

Y tri chwmni, Working Word PR, Cazbah Marketing and Events a JM Creative oedd yr unig gwmnïau o Gymru i gyrraedd y rhestr fer o’r dewis o 60 ymgyrch yn y DU gan ennill gwobr Aur yn y categori ‘ymgyrchoedd integredig’.

Fe wnaeth y tri chwmni gydweithio i greu a chynhyrchu’r ymgyrch newid i ddigidol Ymlaen â’r Sioe ar gyfer S4C.

Nod yr ymgyrch Ymlaen â’r Sioe oedd dangos manteision teledu digidol ar gyfer gwylwyr S4C ac esbonio’r amserlen ar gyfer cyflwyno’r sianel ddigidol gwbl Gymraeg i gymryd lle teledu analog yn ein gwlad.

Cafodd yr ymgyrch ei hasesu am lwyddiant y strategaeth, creadigrwydd, cost-effeithiolrwydd a’r canlyniadau. Meddai’r beirniaid: “Roedd hon yn ymgyrch integredig wych, gyda syniad creadigol arbennig yn sail iddi a oedd yn effeithiol ar yr awyr ac oddi ar yr awyr. Fe fwynhaodd yr ymgyrch ganlyniadau da.”

Fe drodd y cwmnïau at rai o sêr amlyca’ S4C a’r cwmni sgiliau syrcas NoFitState Circus yn yr ymgyrch integredig - gan ddefnyddio hysbysebion, marchnata a thechnegau cysylltiadau cyhoeddus i gyfathrebu negeseuon allweddol S4C. Roedd thema’r syrcas yn yr ymgyrch yn cyfleu’r neges bod troi i ddigidol yn haws na dysgu sgiliau syrcas.

Fel rhan o’r ymgyrch, roedd sêr S4C fel Sarra Elgan, Angharad Mair a Dudley Newbery yn dysgu sgiliau syrcas fel jyglo, cerdded ar raff a reidio beic un olwyn i enwi ond ychydig o’r sgiliau. Fe aeth y sêr i galon cymunedau ar hyd a lled Cymru i ddangos y sgiliau, gan roi gwybodaeth i bobl leol am yr hyn oedd angen iddynt wneud i barhau i wylio S4C.

Ar ran y tri chwmni, dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Working Word Eoghan Mortell: “Roedd cyfuno sgiliau a phrofiad y tri chwmni yn caniatáu inni greu ymgyrch bwerus, effeithiol wedi’i thargedu’n ofalus ar ran S4C ac mae’n galonogol iawn bod yr ymgyrch wedi cael ei chydnabod gan y diwydiant cysylltiadau cyhoeddus yn y DU.”

“Roedd y tîm o fewn S4C wedi cynnig pob cefnogaeth inni ac roedd yn bleser cydweithio gyda nhw ar y project cyffrous hwn ar adeg hollbwysig yn natblygiad darlledu yng Nghymru.”

Meddai Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, Garffîld Lloyd Lewis: “Fe weithiodd yr ymgyrch yn dda ar nifer o lefelau, o’r cyfryngau’n genedlaethol i’r cymunedau lleol. Fe weithiodd y tri chwmni yn effeithiol gyda’i gilydd a gydag S4C, i hysbysu a helpu ein cynulleidfa yn ystod yr ymgyrch newid i ddigidol.”

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?