S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Enwebiad yng Ngŵyl Deledu fwyaf Ewrop i Siôn Pyrs a’i Ddiwrnod Mawr

11 Mehefin 2010

  Mae rhaglen S4C am fachgen 5 oed o Bentrefoelas, Conwy wedi cael ei henwebu am wobr yng ngŵyl bwysicaf y diwydiant adloniant yn Ewrop - Gŵyl Deledu Ryngwladol y Rose d’Or 2010.

Darlledwyd y rhaglen am Siôn Pyrs, mab fferm o Bentrefoelas, yng nghyfres S4C Y Diwrnod Mawr, sydd wedi torri tir newydd ym myd teledu plant fel cyfres o raglenni dogfen i blant meithrin.

Fe’i henwebwyd yng nghategori plant a phobl ifanc yr 50fed Ŵyl y Rose d’Or a gynhelir yn Lucerne yn y Swistir ym mis Medi. Enwebwyd 110 o raglenni allan o dros 500 o ymgeiswyr o dros 40 o wledydd ar gyfer yr ŵyl. Y Diwrnod Mawr yw’r unig raglen o Gymru i gael ei henwebu.

Cynhyrchwyd y rhaglen gan Ceidiog Cyf. ac fe’i darlledwyd fel rhan o wasanaeth meithrin S4C Cyw. Mae’r gyfres Y Diwrnod Mawr yn dilyn 26 o blant - un ymhob rhaglen - ar ddiwrnod mawr yn eu bywydau.

Ar ei ddiwrnod mawr, mae Siôn yn gwerthu'i oen "John Parri"ym marchnad anifeiliaid Rhuthun.

Yn y mart, mae Siôn yn cael pris da iawn - £74. “Dwi’n hapus iawn efo’r pris.” meddai Siôn, tra'n bwyta brechdan wy i ddathlu. “Dwi'n mynd i brynu tractor! ”

Mae Sion yn ffarmwr ifanc arbennig ac yn dynnwr coes o fri.

Mae’r rhaglen yn ei ddilyn yn yr wythnosau yn arwain at y diwrnod mawr. Mae o'n gweithio ar y fferm gyda'i fam Marian a'i dad Alun. Mae hefyd yn cyflwyno'r anifeiliaid - y cŵn, a'r cathod a Bedwyr y ferlen i'r gwylwyr. Rydyn ni'n ei weld yn corlannu'r defaid ac yn archwilio John Parri i wneud yn siwr ei fod yn iach. Yn y farchnad, mae'n cael ei ganmol am ei "oen da" ac mae'n rhannu joc gyda'r ocsiwniar!

Yn yr ysgol wedyn, mae'n mwynhau creu a chyflwyno sioe am stori Gelert - efo Sion yn cymryd rhan Llywelyn yn dywysogaidd iawn!

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Dyma’r tro cyntaf i blant bach gael cyfres ddogfen iddyn nhw eu hunain, amdanyn nhw eu hunain. Mae derbyn enwebiad yng ngŵyl deledu bwysicaf Ewrop yn deyrnged i gynhyrchwyr y rhaglen ac i wasanaeth meithrin S4C.”

Meddai cynhyrchydd a chyfarwyddwr y gyfres, Nia Ceidiog, “Dyma’r tro cyntaf i’r categori plant a phobl ifanc gael ei gynnwys yn yr ŵyl a hynny i ddathlu hanner can mlwyddiant y Rose d’Or. Mae plant bach wrth eu boddau yn gweld plant eraill ar y sgrin. Rydyn ni'n saethu ac yn golygu'r rhaglenni fel unrhyw raglen ddogfen, ac mae'r plant eu hunain yn dweud eu stori'n huawdl iawn yn eu geiriau eu hunain. Yna rydyn ni'n ychwanegu graffeg lliwgar a cherddoriaeth i wneud rhaglen sydd yn diddannu a dysgu - perffaith ar gyfer plant meithrin!”

Gellir gwylio Y Diwrnod Mawr ar s4c.co.uk/clic a darllen mwy am y gyfres ar s4c.co.uk/cyw yn yr adran oedolion.

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?