S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Clirlun nawr ar gael i bawb yng Nghymru

19 Gorffennaf 2010

 

Mae sianel newydd arloesol S4C Clirlun nawr ar gael i wylwyr trwy Gymru gyfan ac am y tro cyntaf erioed fe ddangosir rhaglenni S4C o’r Sioe Amaethyddol Frenhinol yn Llanelwedd yr wythnos hon ar S4C Clirlun.

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynnig gwasanaeth teledu manylder uwch i bawb.

Mae S4C Clirlun yn cael ei ddarlledu ar Freeview yng Nghymru, yn gydamserol â’i gwasanaeth manylder arferol. Mae’r gwasanaeth yn cynnig lluniau gyda llawer mwy o fanylder na’r hyn mae gwylwyr yn arfer eu gweld ar y gwasanaethau cyfredol.

Bu S4C yn comisiynu rhaglenni ar ffurf Manylder Uwch ers peth amser ac o’r wythnos hon ymlaen mae S4C Clirlun ar gael i’r holl wylwyr yng Nghymru. Erbyn diwedd 2012, mae S4C yn bwriadu y bydd ei holl raglenni ar gael mewn Clirlun.

Meddai Prif Weithredwr S4C, Iona Jones, “Mae S4C Clirlun yn ddatblygiad cyffrous sy’n cynrychioli buddsoddiad creadigol, ariannol a thechnolegol arwyddocaol. Bydd yn wasanaeth newydd sbon sy’n cynnig lluniau o’r safon dechnolegol gorau posib ar blatfform Freeview.

“Mae S4C erbyn hyn yn wasanaeth cyflawn Gymraeg. Rydym wedi creu gwasanaeth o safon uchel mewn amrywiaeth o feysydd er mwyn gwneud yn fawr o’r cyfle i ddarparu rhaglenni Cymraeg ar S4C o fore gwyn tan nos. Mae nifer sylweddol o’n rhaglenni ar gael eisoes mewn ffurf Clirlun ac fe fydd y broses hon yn cynyddu’n raddol tan fod ein holl gynnyrch ar gael mewn Clirlun o fewn dwy flynedd a hanner.”

Am fwy o wybodaeth ewch i s4c.co.uk/clirlun

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?