S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Bron i hanner miliwn yn gwylio Bristol City v Caerdydd

13 Ionawr 2010

Fe wnaeth bron 500,000 o gefnogwyr pêl-droed ledled y DU droi at ddarllediad S4C o’r gêm drydedd rownd, Cwpan yr FA rhwng Bristol City a Chaerdydd, a ohiriwyd oherwydd y tywydd gwael ac a chwaraewyd a darlledwyd neithiwr.

Fe ddenodd y darllediad byw o’r gêm ddarbi, a ddarparwyd gan y tîm sy’n cynhyrchu rhaglen bêl-droed Sgorio S4C, 475,000 o wylwyr.

Mae S4C ar hyn o bryd mewn trafodaethau i ddarlledu’r gêm ail-chwarae.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?