S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C am ddangos gêm Gwlad Pwyl v Cymru

09 Chwefror 2009

Bydd S4C yn darlledu’r gêm ryngwladol gyfeillgar rhwng Gwlad Pwyl a Chymru yn fyw o Bortiwgal nos Fercher 11 Chwefror.

S4C yw’r unig sianel fydd yn dangos y gêm yn fyw yn rhad ac am ddim ar deledu daearol - gêm sy’n hollbwysig wrth i Gymru baratoi ar gyfer y ddwy gêm fawr yng Nghrŵp 4 y rowndiau rhagbrofol ym mis Mawrth ac Ebrill.

Bydd rhaglen bêl-droed S4C, Sgorio yn stadiwm y Vila Real De Santo Antonio yn yr Algarve, Portiwgal o 5.00pm ymlaen yn barod ar gyfer y chwiban gyntaf am 5.15pm.

Bydd S4C hefyd yn darlledu uchafbwyntiau’r gêm yn ddiweddarach y nos mewn rhaglen Sgorio ychwanegol am 11.05pm.

Dyma fydd y cyfle olaf i’r rheolwr cenedlaethol John Toshack edrych ar y garfan cyn y ddwy gêm yn erbyn Y Ffindir ar 28 Mawrth a’r Almaen ar 1 Ebrill.

Mae’r gêm yn dechnegol yn gêm gartref i Wlad Pwyl gan fod y garfan yn yr Algarve yn paratoi ar gyfer gemau rowndiau rhagbrofol yn erbyn Gogledd Iwerddon a San Marino.

Meddai Geraint Rowlands, Golygydd Cynnwys Chwaraeon S4C : “Rydym yn falch iawn ein bod wedi ennill yr hawliau i ddarlledu’r gêm yn fyw ar S4C. Bydd dilynwyr pêl-droed yn gwerthfawrogi’r cyfle i wylio’r gêm yn rhad ac am ddim ar deledu daearol ledled y Deyrnas Unedig. Mae'r gêm yn baratoad pwysig ar gyfer y gemau yn erbyn Y Ffindir a’r Almaen, y bydd Sgorio hefyd yn eu dangos yn ei rhaglenni uchafbwyntiau.”

Tîm cyflwyno Sgorio ar gyfer y gêm rhwng Gwlad Pwyl a Chymru yw Gareth Roberts a Dai Davies yn y stiwdio, Nic Parry a Meilyr Owen yn y blwch sylwebu a Morgan Jones ar ochr y cae.

Bydd rhaglen Sgorio nos Lun (9 Chwefror, 10.00pm) yn edrych ymlaen at y gêm fawr yng nghwmni’r ddau gyn chwaraewr rhyngwladol, John Hartson a Dai Davies a’r tîm cyflwyno arferol.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?