S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyfle i wylwyr leisio barn am S4C

10 Chwefror 2010

     Bydd cyfle i wylwyr ardal trosglwyddydd Blaenplwyf yng nghanolbarth Cymru leisio’u barn am S4C a dysgu mwy am y newid i ddigidol mewn digwyddiad arbennig a gynhelir yn y Plas, Machynlleth, heno (nos Fawrth 16/02/10) am 7.00pm.

Cadeirydd S4C, John Walter Jones, fydd yn llywio’r Noson Gwylwyr, sy’n rhan o ymgyrch gyfathrebu S4C am y newid i ddigidol. Bydd Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, Rhian Gibson, Pennaeth Materion Corfforaethol, Tim Hartley ac aelodau Awdurdod S4C hefyd yn bresennol.

Meddai Cadeirydd S4C, John Walter Jones: “Rydym yn estyn croeso cynnes iawn i bobl i ddod i’r noson i leisio’u barn am S4C a gofyn unrhyw gwestiynau am y newid i ddigidol, sydd eisoes wedi dechrau yn yr ardal.

“Gyda chynifer o newidiadau mawr ar droed, ynghyd ag amserlen gyffrous S4C ar gyfer y gwanwyn, bydd digon o bynciau trafod difyr ac rydym yn edrych ymlaen at gael cwrdd â’n gwylwyr wyneb-yn-wyneb.”

Cynhelir Noson Gwylwyr Machynlleth wrth i amserlen gwanwyn S4C ddechrau. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae teyrnged i’r diweddar Archdderwydd, Dic Jones, cyfres o raglenni diwylliannol dan faner Pethe a’r gystadleuaeth flynyddol, Cân i Gymru. Mae darllediadau S4C o’r Chwe Gwlad yn parhau gyda thîm profiadol Y Clwb Rygbi Rhyngwladol, ac mae digon o hwyl i’w gael gyda Jonathan Davies a’r criw yn y sioe adloniant Jonathan.

Darperir lluniaeth ysgafn yn y noson. Bydd offer cyfieithu a system ddolen sain hefyd ar gael. Os oes gennych unrhyw anghenion pellach neu am fwy o fanylion, ffoniwch 01352 754212 neu e-bostiwch nosongwylwyr@s4c.co.uk.

Diwedd

 

 

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?