S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn gwahodd gwylwyr i enwi sianel Manylder Uwch newydd

25 Ionawr 2010

Mae S4C yn gwahodd gwylwyr i helpu dewis enw ar gyfer ei sianel arloesol Manylder Uwch, fydd yn cael ei lansio yn ddiweddarach eleni.

O Ebrill ymlaen, bydd S4C yn darlledu gwasanaeth teledu Manylder Uwch S4C Digidol ar Freeview yng Nghymru, yn gydamserol â’i gwasanaeth manylder arferol. Bydd y gwasanaeth yn cynnig lluniau gyda hyd at bedair gwaith yn fwy o fanylder na’r hyn mae gwylwyr yn arfer eu gweld ar y gwasanaethau cyfredol.

Mae S4C wedi bod yn comisiynu rhaglenni ar ffurf Manylder Uwch ers peth amser, gan gynnwys y gyfres weledol drawiadol am dirwedd Cymru Tir Cymru sy’n cael ei dangos ar hyn o bryd ar S4C ar ffurf manylder arferol. Erbyn 2012, bydd S4C yn comisiynu ei holl raglenni mewn Manylder Uwch.

Mae S4C nawr yn gofyn i’w gwylwyr gynnig enw ar gyfer y sianel Manylder Uwch fydd yn cyfleu holl gyffro a menter y gwasanaeth newydd.

Meddai Prif Weithredwr S4C, Iona Jones, “Rydym yn mwynhau perthynas agos ac adeiladol gyda’n gwylwyr a chredaf y dylent gael dewis yn yr hyn y byddwn yn galw ein gwasanaeth Manylder Uwch newydd.

“Ym mis Mawrth, bydd y broses o newid i ddigidol yng Nghymru yn cyrraedd penllanw gyda throsiad y trosglwyddyddion yng Ngwenfô a Blaenplwyf a’u gorsafoedd trosglwyddo cysylltiol. O hynny ’mlaen bydd S4C yn wasanaeth cwbl Gymraeg.

“Rydym wedi creu gwasanaeth o safon uchel mewn amrywiaeth o genres er mwyn gwneud yn fawr o’r cyfle i ddarparu rhaglenni Cymraeg ar S4C o fore gwyn tan nos.

“Manylder Uwch yw’n datblygiad cyffrous nesaf - datblygiad sy’n cynrychioli buddsoddiad creadigol, ariannol a thechnolegol arwyddocaol. Bydd yn wasanaeth newydd sbon sy’n cynnig lluniau o’r safon dechnolegol gorau posib ar blatfform Freeview.

“Hoffem dderbyn awgrymiadau gan ein gwylwyr er mwyn sicrhau ein bod yn bathu enw Cymraeg sy’n cyfleu natur ddeinamig gwasanaeth sy’n torri tir newydd.”

Bydd y sianel newydd ar gael o Ebrill ymlaen i wylwyr sy’n derbyn eu gwasanaeth ar blatfform Freeview o drosglwyddyddion Gwenfô, Blaenplwyf a Mynydd Cilfái yn ne a gorllewin Cymru. Bydd y gwasanaeth yn cael ei gyflwyno fesul rhanbarth, gyda gweddill Cymru yn gallu ei dderbyn ar Freeview erbyn mis Gorffennaf.

Gall gwylwyr gyflwyno’u syniadau drwy ffonio Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 6004141* neu drwy e-bostio’r Wifren ar gwifren@s4c.co.uk

*Ni ddylai galwadau gostio mwy na 6c y funud o linell BT.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?