S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Yr Athro Hywel Teifi Edwards

05 Ionawr 2010

   Meddai Iona Jones, Prif Weithredwr S4C, “Bu’r Athro Hywel Teifi Edwards yn gyfrannwr cyson i S4C ac roedd yn sylwebydd treiddgar a deallus, yn llawn afiaith a ffraethineb. Uwchlaw pob dim roedd yn gyfathrebwr heb ei ail. Bydd colled enfawr ar ei ôl ac estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf i’w deulu a’i gyfeillion lu.”

Bydd y rhaglen ddogfen HYWEL TEIFI, a ddarlledwyd gyntaf ym mis Medi 2009, yn cael ei darlledu fel teyrnged nos Fercher 27 Ionawr am 21:00, a bydd ar gael ar S4/Clic.

Mwy am Hywel Teifi

 

 

 

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?