S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

DVDs newydd Sam Tân

28 Ionawr 2010

Bydd DVDs Cymraeg newydd sbon o gyfres 6 Sam Tân ar gael mewn siopau ledled Cymru o fewn y misoedd nesaf.

Mae’r DVDs yn cael eu cynhyrchu fel rhan o gytundeb newydd a wobrwywyd i gwmni Sain gan S4C yn dilyn proses dendr agored.

Meddai Iona Jones, Prif Weithredwr S4C, “Rydym yn falch iawn y bydd DVDs Cymraeg newydd o un o gyfresi meithrin mwyaf poblogaidd S4C ar gael, diolch i’r cytundeb hwn.

“Byddwn yn edrych i ymestyn nifer y DVDs, teganau meddal ac eitemau eraill yn seiliedig ar gymeriadau plant S4C sydd ar gael eleni, a byddwn yn gwneud cyhoeddiadau pellach maes o law.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?