S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Jonathan Davies yn lansio tymor rygbi 2010 ar S4C

02 Chwefror 2010

Bydd sioe Jonathan yn ôl ar y sgrin nos Wener 5 Chwefror am 21.30 wrth i’r arwr rygbi Jonathan Davies a’r criw lansio tymor rygbi rhyngwladol 2010 mewn steil.

Bydd y sioe boblogaidd - sy’n tynnu ynghyd llu o enwogion fel Nigel Owens, Rowland Phillips a chyflwynydd newydd, Alex Jones i ymuno â Jonathan ar gyfer sgetsys, cystadlaethau a digon o dynnu coes – ar S4C drwy gydol ymgyrch y Chwe Gwlad.

Y chwaraewr rygbi Dwayne Peel a’r actor Julian Lewis Jones, un o sêr ffilm newydd Clint Eastwood, Invictus, fydd y gwesteion yn y rhaglen gyntaf, tra mai Nigel Owens yw pwnc portread pwerus, awr o hyd fydd yn cael ei darlledu ar S4C yn gynharach nos Wener am 20.25.

Yn y rhaglen, Nigel Owens, mae’r dyfarnwr –sydd ar y brig yn fyd-eang - yn siarad yn agored am ei yrfa, gan gynnwys scandal ‘Bloodgate,’ a’i fywyd personol. Mae Nigel wedi trechu bwlimia, iselder ysbryd ac ymdrech i gyflawni hunanladdiad fel rhan o’r broses o ddod i dermau â’i rywioldeb.

Bydd Nigel yng nghanol holl gyffro penwythnos agoriadol ymgyrch y Chwe Gwlad wrth iddo ddyfarnu yn y gêm rhwng Yr Alban a Ffrainc, tra bydd tîm sylwebu Y Clwb Rygbi ar S4C yn canolbwyntio ar y gêm rhwng Cymru a Lloegr yn Twickenham ar 6 Chwefror.

Arwr y byd rygbi, Gareth Edwards, cyn-gapten Cymru, Gwyn Jones a’r cyn-chwaraewyr rygbi rhyngwladol, Derwyn Jones a Brynmor Williams fydd yn ymuno â’r sylwebydd, Huw Llywelyn Davies a’r cyflwynwyr, Gareth Roberts a Sarra Elgan i roi eu barn arbenigol.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Mae rhaglen Jonathan yn rhan

annatod o’r holl gyffro o edrych ymlaen at gemau’r Bencampwriaeth y Chwe Gwlad

pan fydd y criw yn bwrw golwg bywiog ac ysgafn ar y gystadleuaeth.

“Gyda phortread dirdynnol o Nigel Owens a darllediadau cynhwysfawr o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad, mae S4C yn cynnig gwasanaeth heb ei ail o un o uchelfannau mawr y calendr chwaraeon yng Nghymru.”

Meddai Jonathan Davies, “Mae’n braf cyflwyno sioe sydd yn rhoi blas o holl hwyl ac awyrgylch

penwythnos gemau’r Chwe Gwlad gan fod y gystadleuaeth yn un mor arbennig. Fe fydd yna ddigon o hiwmor yn y sioe gan fod y tynnu coes rhwng aelodau’r criw yn rhan boblogaidd o’r sioe.”

Nodyn i’r golygydd

Rygbi – mae yn y gwaed

Mae ffilm hyrwyddo gemau’r Chwe Gwlad ar S4C yn dangos aelodau carfan chwaraewyr Cymru yn ymarfer yn erbyn cefndir o gelloedd gwaed coch a gwyn, gwythiennau a nerfau, gyda’r neges ‘Rygbi – mae yn y gwaed.’ Gallwch ei gwylio ar s4c.co.uk.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?