S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Iona Jones yn Gadeirydd Newydd yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd

23 Ebrill 2010

  Mae’r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd, sydd yn cael ei chynnal ar hyn o bryd yn Newry, Gogledd Iwerddon, wedi ethol Iona Jones, Prif Weithredwr S4C, yn Gadeirydd yr Ŵyl ar gyfer 2010-2013 yn ei Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Wedi ei sefydlu 31 mlynedd yn ôl i ddathlu’r gorau yn y diwydiant teledu, ffilm ac, yn fwy diweddar, radio a’r cyfryngau newydd, mae’r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd wedi tyfu mewn statws a maint i ddatblygu’n un o’r gwyliau pwysicaf yn y diwydiannau darlledu a ffilm yng Nghymru, Iwerddon, Yr Alban, Cernyw a Llydaw.

Meddai Iona Jones, sy’n olynu Cyfarwyddwr Cyffredinol RTÉ, Cathal Goan, fel Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Ŵyl, “Mae cael fy ethol yn Gadeirydd yr Ŵyl yn anrhydedd fawr. Rwyf yn edrych ymlaen at arwain y gwaith o ddatblygu’r ŵyl ar y cyd â’r aelodau eraill yn y cenhedloedd a’r rhanbarthau Celtaidd. Hoffwn ddiolch i Cathal Goan, Cyfarwyddwr Cyffredinol RTÉ', am ei arweiniad fel cadeirydd yn ystod y tair blynedd diwethaf.”

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?