S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyhoeddi cyfansoddwyr llwyddiannus Cân i Gymru 2010

15 Chwefror 2010

       Mae rheithgor arbenigol Cân i Gymru 2010 wedi treulio oriau’n pori drwy’r holl gyfansoddiadau ar gyfer cystadleuaeth eleni – ac mae’r wyth olaf bellach wedi’u dewis.

Bydd yr wyth yn cystadlu’n fyw ar Cân i Gymru, a ddarlledir ar S4C am 7.30pm ar 28 Chwefror gyda’r cyflwynwyr Sarra Elgan a Rhodri Owen wrth y llyw.

Owen Powell, cyn gitarydd y band Catatonia, yw Cadeirydd y Rheithgor ac mae nifer o wynebau cyfarwydd eraill hefyd ar y panel.

Mae Aloma Jones, o’r ddeuawd boblogaidd Toni ac Aloma, y cyfansoddwr a chanwr amryddawn Endaf Emlyn, y gantores a chyflwynydd cyfres gerddoriaeth S4C, Nodyn, Elin Fflur, ac enillydd Cân i Gymru 2009, Elfed Morgan Morris. Mae’r cynhyrchydd cerddoriaeth Dyl Mei hefyd yn aelod o’r panel.

£10,000 yw’r wobr i gyfansoddwr y gân fuddugol, gyda’r ail a’r trydydd yn y gystadleuaeth hefyd yn derbyn gwobrau o £2,000 a £1,500. Bydd hanner y pleidleisiau yn dod o’r panel beirniaid yn Venue Cymru, Llandudno, lle cynhelir y noson, gyda gweddill y pleidleisiau yn cael eu bwrw gan y gwylwyr gartref.

Dyma restr o’r wyth cân sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol eleni:

• Gwên ar fy Wyneb, wedi ei chyfansoddi gan Megan Rhys Williams o Hermon ger Crymych ar gyfer ei chwrs cerddoriaeth Lefel A yn Ysgol Gyfun y Preseli. Mae bellach yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd. Perfformir y gân ar y noson gan Beth Williams.

• Bws i’r Lleuad, a gyfansoddwyd gan Alun Evans o Lanrwst, neu Alun Tan Lan. Mae Alun yn gyn-aelod o fand Gorky’s Zygotic Mynci ond mae bellach yn chwarae’r gitâr i’r grŵp offerynnol newydd, Y Niwl. Tomos Wyn fydd yn perfformio’r gân.

• Deffra, wedi ei chyfansoddi gan y cerddor, cyfansoddwr ag actor, Gai Toms o Flaenau Ffestiniog a fydd yn cael ei pherfformio gan Estynedig ar y noson. Yn ddiweddar, fe gyhoeddodd Gai albwm eco-gysyniadol, Rhwng y Llygru a’r Glasu, ac mae Deffra yn crisialu’r albwm honno.

• Pob Siawns, wedi ei chyfansoddi ar y cyd gan Lowri Evans o Dreftraeth a’r gitarydd a pheiriannydd stiwdio, Lee Mason. Bydd Lowri yn perfformio’r gân ar y noson. Daeth y ddau yn ail yn y gystadleuaeth yn 2008 gyda’r gân, Ti a Fi.

• Gorwel, a gyfansoddwyd gan Jaqueline Williams ac Aron Elias Jones, a fu’n aelod o’r band hip hop Pep Le Pew ond sydd bellach yn chwarae gyda’r band Y Rei.

• Aros yn yr un lle, a gyfansoddwyd gan aelod band Yr Ods, sef Osian Howells. Cafodd Osian hefyd lwyddiant yn chwarae’r gitâr a’r allweddellau gyda’r band Yucatan. Yr Ods fydd yn perfformio cân Osian ar y noson.

• Ti a ddaeth o dramor, yw’r gân a gyfansoddwyd ar y cyd gan Matthew Wall, o Bwllheli, a Deio Jones, o Garndolbenmaen. Mae Matthew bellach yn athro yn Ysgol Gyfun y Barri ac yn aelod o’r band, Hafaliadau.

• Glyndŵr, wedi ei chyfansoddi gan Simon Gardner, Andrew Moore a Tudur Morgan. Mae Tudur yn gynhyrchydd recordiau proffesiynol, Simon yn artist unigol blaenllaw, ac Andrew yn trawsgrifwr cerddoriaeth yn ei swydd bob dydd. Perfformir y gân ar y noson gan Martin Beattie.

Gwefan Cân i Gymru

 

 

 

 

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?