S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn sefydlu sianel newydd - Clirlun

29 Mawrth 2010

  Bydd S4C yn lansio sianel newydd arloesol o Ebrill 30 ymlaen. Enw’r sianel newydd fydd S4C Clirlun – enw newydd yn yr iaith Gymraeg a fathwyd gan un o wylwyr S4C. Manylder Uwch oedd y term a ddefnyddiwyd am dechnoleg y sianel newydd hyd yma.

Bydd S4C Clirlun yn cael ei ddarlledu ar Freeview HD yng Nghymru, yn gydamserol â’i gwasanaeth manylder arferol. Bydd y gwasanaeth yn cynnig lluniau gyda mwy o fanylder na’r hyn mae gwylwyr yn arfer eu gweld ar y gwasanaethau cyfredol.

Mae S4C wedi bod yn comisiynu rhaglenni ar ffurf Clirlun ers peth amser, gan gynnwys y gyfres weledol drawiadol am dirwedd Cymru Tir Cymru a ddangoswyd yn ddiweddar ar S4C ar ffurf manylder arferol. Erbyn diwedd 2012, mae S4C yn bwriadu y bydd ei holl raglenni yn cael eu cynhyrchu ar ffurf Clirlun.

Gofynnodd S4C i’w gwylwyr gynnig enw ar gyfer y sianel newydd – enw a fyddai’n cyfleu holl gyffro a menter y gwasanaeth. Mrs Ann Evans o Grwbin yng Nghwm Gwendraeth awgrymodd yr enw Clirlun drwy raglen S4C Wedi 7 a ddangosodd eitem ar y sianel newydd. Mae Mrs Evans, ei gŵr Llŷr a’i merch, Rhian, yn wylwyr cyson S4C a rhaglen Wedi 7 yn arbennig.

“Fe fydd yn deimlad rhyfedd gwylio’r sianel newydd a minnau wedi dewis yr enw Clirlun,” meddai Mrs Evans.

Meddai Prif Weithredwr S4C, Iona Jones, “Rydym yn mwynhau perthynas agos ac adeiladol gyda’n gwylwyr a rhoddwyd cyfle iddynt ddewis enw ein gwasanaeth newydd ac i fathu term newydd yn yr iaith Gymraeg.”

“Mae’r broses o newid i ddigidol yng Nghymru yn cyrraedd penllanw ar 31 Mawrth gyda throsiad y trosglwyddydd yng Ngwenfô a’i orsafoedd trosglwyddo cysylltiol. O hynny ’mlaen bydd S4C yn wasanaeth cwbl Gymraeg.

“Rydym wedi creu gwasanaeth o safon uchel mewn amrywiaeth o feysydd er mwyn gwneud yn fawr o’r cyfle i ddarparu rhaglenni Cymraeg ar S4C o fore gwyn tan nos. Ar 31 Mawrth, Cymru fydd y wlad gyntaf o fewn y DU i gwblhau'r trawsnewid i ddigidol a Chaerdydd fydd y brifddinas genedlaethol gyntaf i gwblhau’r newid.

“S4C Clirlun yw’n datblygiad cyffrous nesaf - datblygiad sy’n cynrychioli buddsoddiad creadigol, ariannol a thechnolegol arwyddocaol. Bydd yn wasanaeth newydd sbon sy’n cynnig lluniau o’r safon dechnolegol gorau posib ar blatfform Freeview HD.”

Bydd y sianel newydd ar gael o Ebrill ymlaen i wylwyr sy’n derbyn eu gwasanaeth ar blatfform Freeview HD o drosglwyddyddion Gwenfô, Blaenplwyf a Mynydd Cilfái yn ne a gorllewin Cymru. Bydd y gwasanaeth yn cael ei gyflwyno fesul rhanbarth, gyda gweddill Cymru yn gallu ei dderbyn ar Freeview HD erbyn mis Gorffennaf. Am fwy o fanylio, ewch i s4c.co.uk/clirlun.

 

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?