S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyhoeddi cytundebau ar gyfer darpariaeth i blant hŷn a phobl ifanc

12 Mai 2010

Mae S4C wedi cyhoeddi bod dau gwmni wedi cael cynnig cytundebau i gynhyrchu cynnwys ar gyfer darpariaeth y sianel i bobl ifanc.

Mae’r cynnig i gwmnïau Rondo Media Cyf ac Antena Cyf yn rhan o drydydd cymal strategaeth S4C ym maes plant a phobl ifanc. Mae gwerth y buddsoddiad yn y ddarpariaeth dros £7 miliwn dros dair blynedd.

Yn ogystal bydd trafodaethau gyda Cwmni Da Cyf ynglyn â datblygu un prosiect penodol.

Fe ddaw’r cyhoeddiad yn dilyn proses dendr agored a chystadleuol.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?