S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn darlledu Y Dydd yn Y Cynulliad

15 Ebrill 2010

Bydd S4C yn darlledu’r trafodaethau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru o nos Fawrth nesaf (20 Ebrill) ymlaen gyda gwasanaeth o dan y teitl Y Dydd yn Y Cynulliad.

Cyhoeddodd S4C ym mis Mawrth ei fod yn bwriadu cyflwyno darllediadau o drafodion y Cynulliad ar y brif Sianel drwy’r Deyrnas Unedig.

Bydd sesiynau llawn y Cynulliad a rhai pwyllgorau yn cael eu darlledu ar nosweithiau Mawrth, Mercher ac Iau o tua 23:30 ymlaen am hyd at chwe awr bob nos.

Meddai Iona Jones, Prif Weithredwr S4C, “Mae rhoi amlygrwydd i drafodaethau’r Cynulliad Cenedlaethol ar Sianel sy’n cyrraedd holl gartrefi Cymru a thanysgrifwyr Sky y tu hwnt i Gymru yn ymrwymiad pwysig gan S4C yn yr oes ddigidol.

“Mae hyn yn unol â’r datganiad yn ein Polisi Rhaglenni 2010 i gryfhau ac ehangu ein darpariaeth fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?