S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwobrau i S4C yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd

22 Ebrill 2010

  Mae cyfres S4C a aeth a saith o sêr Cymreig i weithio fel cowbois ar ranch yn Arizona wedi ennill gwobr yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd 2010.

Cipiodd Y 7 Magnifico a Matthew Rhys y wobr yn y categori Adloniant Ffeithiol. Ymunodd un o sêr Cymru Hollywood, Matthew Rhys â’r saith arall yn y gyfres ddwy ran a gynhyrchwyd gan gwmni Boomerang.

Hon oedd y drydedd wobr i S4C ennill yn yr Ŵyl sy’n cael ei chynnal yn Newry, Gogledd Iwerddon. Enillodd y Sianel ddwy wobr ar ddiwrnod agoriadol yr Ŵyl.

Cipiodd y rhaglen ddogfen Carwyn, cynhyrchiad Green Bay Media, ar fywyd arwr y byd rygbi, Carwyn James y wobr yn y categori Chwaraeon.

Daeth y wobr arall i S4C yn y categori Addysg. Y rhaglen fuddugol oedd Trip yr Ysgol Gymraeg, gyda’r chwaraewr rygbi Nicky Robinson yn olrhain hanes addysg drwy’r iaith Gymraeg. Cynhyrchwyd y rhaglen gan ITV Cymru.

Diwedd

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?