S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Martha, Jac a Sianco yn ennill gwobr ‘Ysbryd yr Ŵyl’ yn Newry

23 Ebrill 2010

 Enillodd ffilm bwerus S4C Martha, Jac a Sianco un o wobrau pwysicaf Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2010 a ddaeth i ben yn Newry, Gogledd Iwerddon nos Wener 23 Ebrill.

Cipiodd y ffilm, addasiad o nofel afaelgar Caryl Lewis am etifeddiaeth a thorcalon teuluol, wobr Ysbryd yr Ŵyl, a ddyfarnwyd nos Wener yn seremoni wobrwyo ola’r Ŵyl. Rhoddir y wobr i ffilm neu raglen deledu sydd yn llwyr neu’n sylweddol mewn iaith Geltaidd.

Enillodd y ffilm, sy’n dilyn bywyd dau frawd a chwaer yn byw ar fferm deuluol yng ngorllewin Cymru, chwe gwobr BAFTA Cymru y llynedd. Cynhyrchwyd y ffilm ddwy awr o hyd gan gwmni Apollo, rhan o Grŵp Boomerang+, a chwaraewyd y prif gymeriadau gan Sharon Morgan, Ifan Huw Dafydd a Geraint Lewis.

‘Ysbryd yr Ŵyl’ oedd y bedwaredd wobr i S4C ennill yn Newry.

Enillodd cyfres S4C a aeth a saith o sêr Cymreig i weithio fel cowbois ar ranch yn Arizona wobr yn y categori Adloniant Ffeithiol. Yn Y 7 Magnifico a Matthew Rhys ymunodd un o sêr Cymru Hollywood, Matthew Rhys â’r saith arall mewn cyfres ddwy ran a gynhyrchwyd gan gwmni Boomerang.

Enillodd y Sianel ddwy wobr ar ddiwrnod agoriadol yr Ŵyl. Cipiodd y rhaglen ddogfen Carwyn, cynhyrchiad Green Bay Media, ar fywyd arwr y byd rygbi, Carwyn James y wobr yn y categori Chwaraeon.

Daeth y wobr arall i S4C yn y categori Addysg. Y rhaglen fuddugol oedd Trip yr Ysgol Gymraeg, gyda’r chwaraewr rygbi Nicky Robinson yn olrhain hanes addysg drwy’r iaith Gymraeg. Cynhyrchwyd y rhaglen gan ITV Cymru.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Mae ennill gwobr ‘Ysbryd yr Ŵyl yn uchafbwynt i greadigrwydd S4C a’r sector gynhyrchu annibynnol yng Nghymru. Mae rhaglenni S4C wedi creu argraff gref unwaith eto yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd. Mae’n deyrnged i ymroddiad a gallu creadigol ein sector cynhyrchu eu bod wedi llwyddo mewn gŵyl ryngwladol lle yr oedd mwy na 400 o enwebiadau. Hoffwn eu llongyfarch i gyd am eu llwyddiant.”

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?