S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyfarfod cyntaf Fforwm Darlledu Cymraeg

14 Mehefin 2010

 Cafodd cyfarfod cyntaf y Fforwm Darlledu Cymraeg ei gynnal yn Aberystwyth ddydd Sadwrn 12 Mehefin.

Ffurfiwyd y Fforwm fel cyswllt uniongyrchol rhwng S4C a chynulleidfa’r sianel ym mis Mawrth.

Meddai Cadeirydd Awdurdod S4C, John Walter Jones, “Roedd y cyfarfod yn un adeiladol iawn. Cylch gorchwyl y Fforwm yw adolygu’r ddarpariaeth ac ymdrin â materion darlledu Cymraeg a swyddogaeth y Sianel fel rhan o’r broses gyson o gysylltu â’n gwylwyr yn ôl ymrwymiad S4C i atebolrwydd.”

Meddai Ieuan Wyn, Cadeirydd Undeb y Cymdeithasau Cymraeg, sy'n cynrychioli 26 o gyrff cenedlaethol, "Bu'r cyfarfod cyntaf hwn yn hynod fuddiol. Cyflwynwyd argymhellion a chafwyd trafodaeth ar nifer o agweddau gan gynnwys materion yn ymwneud â darpariaeth y sianel a pholisïau a'u gweithrediad."

Yn ogystal â chyfarfod yn flynyddol mae’r Fforwm yn cynnal deialog gyson gyda S4C er mwyn atgyfnerthu a gwneud y gorau o’r bartneriaeth newydd.

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?