S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Twrio hanes eich teulu

29 Medi 2010

 Oes gennych chi stori ddifyr yn hanes eich teulu chi? Hoffech chi wybod mwy am eich cyndeidiau? Ydych chi’n awyddus i ddysgu sut i hel achau?

Mewn diwrnod arbennig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth bydd cyfle i chi rannu eich hanesion gyda chriw cyfres newydd ar S4C o’r enw Perthyn.

Rhwng 12:00 a 17:00 prynhawn Sadwrn 30 Hydref bydd criw Perthyn a gweithwyr y Llyfrgell Genedlaethol yn cynnal digwyddiad arbennig fydd yn gyfle i chi rannu eich stori a dysgu mwy am sut i fynd ati i chwilio am hanes eich teulu

Bydd y gyfres Perthyn yn mynd ar drywydd hanesion difyr gan ganolbwyntio ar stori un teulu ym mhob rhaglen. Mi fydd hefyd yn rhannu cyngor a syniadau ar sut y gallwch chi fynd ati i dwrio am hanes eich perthnasau. Pwy a ŵyr, efallai bydd helyntion eich cyndeidiau yn cael eu gweld ar S4C?

Mae gan Gymry obsesiwn gyda’u gwreiddiau, dy’n ni’n enwog am holi “un o ble wyt ti?” neu “i bwy wyt ti’n perthyn?” Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth yn cael ei chydnabod fel y brif ganolfan ar gyfer ymchwilio i achau’r Cymry ac mae degau o filoedd o bobl yn ymweld â’r llyfrgell bob blwyddyn i ddarganfod mwy am eu gwreiddiau.

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ac mi fydd y diwrnod yn cael ei ffilmio ar gyfer y gyfres. Dewch ac unrhyw luniau, dogfennau, coed teulu neu unrhyw ffynonellau perthnasol gyda chi. Mi fydd gweithwyr y Llyfrgell wrth eu bodd yn eu gweld.

Ymhlith y Siaradwyr Gwadd bydd Llywydd y Llyfrgell, Dafydd Wigley.

Am ragor o wybodaeth ac i archebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad cysylltwch â Luned neu Caryl yn Rondo Media ar perthyn@rondomedia.co.uk neu 02920 223456.

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?