S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dewch i gwrdd â chyflwynwyr newydd Cyw

11 Hydref 2010

  Einir Dafydd a Trystan Ellis-Morris yw cyflwynwyr newydd gwasanaeth arloesol i blant meithrin S4C, Cyw, fydd hefyd yn ehangu i’r penwythnosau.

Mae arlwy Cyw yn ehangu i’r penwythnosau o 23 Hydref wrth i’r Sianel ddarlledu rhaglenni meithrin ar foreau Sadwrn a Sul am y tro cyntaf ers lansio’r gwasanaeth ym Mehefin 2008.

Mae Einir, sy’n 21 oed o Foncath ger Crymych, yn wyneb - neu’n hytrach yn llais cyfarwydd - i wylwyr yn dilyn gyrfa cerddoriaeth lewyrchus. Enillodd cyfres talent S4C Waw Ffactor yn 2006 a blwyddyn yn ddiweddarach cafodd lwyddiant yng nghystadleuaeth Cân i Gymru gyda’r gân ‘Blwyddyn Mas’. Ond dyma’r tro cyntaf iddi gael blas ar gyflwyno.

Ar y llaw arall, mae Trystan, sy’n 25 oed o Ddeiniolen ger Caernarfon, yn wyneb adnabyddus i wylwyr sydd wedi’i weld yn cyflwyno’r gyfres ryngweithiol i bobl ifanc, Mosgito, a darllediadau’r Sianel o’r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

Bydd y ddau yn ymuno â Gareth Delve a Rachael Solomon i gyflwyno’r gwasanaeth meithrin ar ei newydd-wedd.

Meddai Einir, “Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Gareth, Rachael, Trystan a Cyw ei hun wrth gwrs. Bydd yn dipyn o her ond mae’n gyfnod cyffrous iawn. Rwy’n credu fy mod yn fwy nerfus nawr na pan o’n i yn 16 neu 17. Doedd dim byd yn effeithio arnai bryd hynny ond wrth ifi fynd yn hyn, rwy’n meddwl lot fwy am bethau.”

Ychwanega Trystan, “Un o’r pethau dwi wir yn edrych ymlaen at wneud gyda’r swydd yw teithio o amgylch Cymru yn cyfarfod y plant sy’n gwylio. Ar y llaw arall, bydd fy sgiliau creadigol yn cael eu profi yn aml iawn ar Cyw. Dwi ‘di gorfod cyfansoddi gwahanol bethau allan o glai yn barod - dwi’n credu bydd angen mwy o ymarfer.

“Bydd Cyw yn sialens wahanol i unrhyw beth dwi ‘di gwneud yn y gorffennol a’r gynulleidfa yn hollol wahanol. Dwi’n methu aros i ddechrau. Mae gen i lot o gefndrid a chyfnitheroedd i helpu fi ymarfer cyn dechrau ar y swydd ar ddiwedd mis Hydref.”

Bydd Clwb Cyw, i’w ddarlledu ar S4C rhwng 07:00 a 09:00 ar foreau Sadwrn a Sul, yn gweld y cyflwynydd Gareth Delve yn teithio i ysgolion a meithrinfeydd gan ryngweithio gyda phlant bach Cymru.

Ymysg y rhaglenni newydd ar gael yn yr arlwy newydd fydd Rapsgaliwn, cyfres sy’n dilyn rapiwr direidus wrth iddo ddarganfod rhyfeddodau'r byd o'i gwmpas. Bydd Y Diwrnod Mawr, rhaglenni dogfen am ein gwylwyr ifanc, yn dychwelyd am ail gyfres. Hefyd, bydd hen ffefrynnau fel Holi Hana, Sali Mali ac enillydd gwobr RTS, ABC, yn cael eu darlledu ar y gwasanaeth.

I ddathlu’r datblygiad cyffrous, bydd rhai o hoff gymeriadau’r gwasanaeth i’w weld ar daith o amgylch Cymru.

Yn yr wythnos yn arwain i fyny at lansio’r estyniad i wasanaeth Cyw, bydd Huwi Stomp a Betsan Brysur o’r gyfres Cei Bach yn cynnal sioeau llawn hwyl a chanu yn y Gogledd a Sali Mali a Tigi o’r gyfres Igi, Tigi, Bip a Bop yn y De.

Does dim angen tocyn ac mae mynediad i’r sioeau am ddim, ond cyntaf i’r felin fydd hi felly dewch mewn da bryd!

Dyma restr o leoliadau ac amseroedd y daith:

Iau 21 Hydref

9:30 a 10:30 Ysgol Glantwymyn a Chanolfan y Morlan, Aberystwyth

14:00 Neuadd Goffa Criccieth a Neuadd Bronwydd, Caerfyrddin

Gwener 22 Hydref

9:30 a 10:30 Ysgol Twm o’r Nant, Dinbych ac Ysgol y Wern, Ystalyfera

14:00 Neuadd Goffa Amlwch a Chanolfan Soar, Penygraig, Rhondda

Mae gwefan ddwyieithog gyffrous 3D – s4c.co.uk/cyw – yn llawn gemau, gweithgareddau a gwybodaeth ar gyfer rhieni yn cyd-fynd â’r gwasanaeth teledu.

Mae Cyw hefyd yn mentro i fyd Facebook gyda thudalen arbennig ar gyfer rheini. Bydd gwybodaeth am y gwasanaeth a’r rhaglenni ynghyd â manylion teithiau a digwyddiadau i’w ddarganfod arni.

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?