S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn lansio Adolygiad Barnwrol

20 Hydref 2010

 Mae Awdurdod S4C yn mynd i lansio Adolygiad Barnwrol o benderfyniad y Llywodraeth i gyfuno S4C a’r BBC i bob pwrpas.

Doedd gan S4C ddim gwybodaeth o flaen llaw am drafodaethau rhwng y BBC a’r Ysgrifennydd Gwladol Jeremy Hunt, trafodaethau fydd yn rhoi rheolaeth dros ariannu a gweithgareddau S4C i’r BBC.

Dywedodd John Walter Jones, Cadeirydd Awdurdod y Sianel, “Fe fydd effaith y toriadau ariannol sydd wedi eu cytuno gan Jeremy Hunt a’r BBC yn cael effaith drychinebus i wylwyr yng Nghymru mewn cyfnod lle mae’r BBC eisoes wedi torri eu gwariant ar raglenni Cymraeg a Saesneg yng Nghymru. O dan drefniant o'r fath fe fyddai rhaglenni teledu Cymraeg yn gorfod cystadlu am adnoddau gyda phob un o wasanaethau’r BBC ac y mae Awdurdod S4C o'r farn y byddai hyn yn peryglu gwasanaethau teledu Cymraeg.

“Rydw i’n rhyfeddu at yr agwedd sarhaus mae Llywodraeth Llundain wedi’i dangos nid yn unig tuag at S4C ond hefyd tuag at bobl Cymru ac i’r iaith ei hun. Fe gefais wybod am y cynlluniau difeddwl hyn gan Mr Hunt a chael gwybod hefyd ei fod yn gytundeb nad oedd yn agored i drafodaeth a hynny dim ond wedi i’r wybodaeth gael ei ddarlledu ar y BBC neithiwr. Nid fel hyn mae cynnal materion cyhoeddus ac mae’n dangos amharch tuag at y ffordd y dylid cynnal polisi cyhoeddus a’r broses ddemocrataidd.

“Mae Awdurdod S4C yn unfrydol yn ei ddymuniad i lansio Adolygiad Barnwrol o benderfyniad Jeremy Hunt a’r modd y gwnaed hynny tu ôl i ddrysau caeedig a heb unrhyw ymgynghori gydag S4C.”

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?