S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwylwyr S4C yn cael dweud eu barn am y Sianel mewn rhaglen fyw

13 Hydref 2010

     Bydd cyfle i wylwyr S4C fynegi eu barn am y Sianel yn fyw mewn rhaglen arbennig Noson Gwylwyr S4C nos Lun 25 Hydref.

Bydd panel yn cynrychioli Awdurdod S4C a Phrif Weithredwr y Sianel yn ateb cwestiynau’r gwylwyr a bydd cyfle i’r cyhoedd ffonio, gysylltu arlein, drydaru neu ysgrifennu i mewn i ddweud eu dweud am raglenni a gwasanaethau’r Sianel cyn ac yn ystod y rhaglen.

Mae S4C yn mynd trwy un o’r cyfnodau mwyaf heriol yn ei hanes. Bydd Noson Gwylwyr S4C yn gyfle i’r gynulleidfa roi eu barn am raglenni a gwasanaethau S4C ac am ddyfodol y Sianel.

Un o wynebau mwyaf poblogaidd S4C, Angharad Mair, fydd yn llywio’r rhaglen awr. Bydd John Walter Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, Arwel Ellis Owen, Prif Weithredwr y Sianel, yn ogystal ag aelodau’r Awdurdod yn ymddangos ar y panel.

Dywedodd John Walter Jones, "Mae barn y gwylwyr yn holl bwysig i S4C ac mae nosweithiau gwylwyr S4C yn cael eu cynnal yn rheolaidd ledled Cymru. Yn y flwyddyn aeth heibio cafwyd ymateb arbennig o dda i gyfarfodydd yn Llangefni, Caerfyrddin, Yr Wyddgrug, Machynlleth, Abertyleri a Glyn Ebwy. Rydym hefyd yn ddiweddar wedi gwahodd sylwadau gan wylwyr ac mae dros 200 wedi cysylltu â ni.

"Bwriad y rhaglen Noson Gwylwyr S4C yw rhoi cyfle i’r gwylwyr ar draws Cymru a thu hwnt gyfrannu i’r drafodaeth am y Sianel a’i dyfodol. Mae cyfathrebu gyda’r gynulleidfa yn holl bwysig i S4C. Mae’n gynulleidfa sy’n meddwl am yr arlwy ac nid rhywbeth mympwyol yw eu barn.

"Yma er lles y gwylwyr mae S4C a rhaid sicrhau cyfleoedd cyson iddynt fynegi eu barn. Mae gan Awdurdod S4C ddyletswydd i wrando ac i gadw mewn cysylltiad â’r gwylwyr ac rydym yn manteisio ar bob cyfle i wneud hynny."

Os am fynegi eich barn neu ofyn cwestiwn ar y rhaglen cysylltwch drwy ffonio 0800 45 10 10, arlein ar www.s4c.co.uk/gwylwyr, drwy drydaru @s4carlein neu ddefnyddio’r tag #gwylwyr, neu drwy ysgrifennu at Noson Gwylwyr S4C, Parc Tŷ Glas, Llanisien, Caerdydd, CF14 5DU.

 

 

 

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?