S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Prif Weithredwr S4C yn rhybuddio darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus

15 Hydref 2010

 Rhybuddiodd Prif Weithredwr S4C, Arwel Ellis Owen heddiw fod y newid mae’r Gweinidog Diwylliant, Jeremy Hunt am wneud i’r ffordd o ariannu’r Sianel yn rhoi pob darlledwr gwasanaeth cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig mewn perygl.

Mewn araith yng nghynhadledd dathlu 40fed mlwyddiant Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Caerdydd, dywedodd Arwel Ellis Owen bod y newid gan yr Ysgrifennydd dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, yn gyrru neges glir hyd yn oed i’r BBC fydd yn gweld ei fformiwla ariannu yn dod i ben yn 2013.

Meddai, “Ddoe cyhoeddodd Jeremy Hunt newid un-frawddeg i fformiwla ariannu S4C yn y Mesur Cyrff Cyhoeddus. Roedd y cyhoeddiad yn ymddangos yn ddigon diniwed – dod â’r cysylltiad rhwng ariannu S4C a’r Mynegai Pris Manwerthu i ben. Ymgorfforwyd y fformiwla yn y mesur statudol sefydlodd S4C – ac am reswm.

“Rhoddodd i S4C gysondeb cyllido sydd wedi gwneud cynllunio hirdymor yn bosib. Bu Pen Talar, drama naw-rhan sy’n ail-greu hanes Cymru dros 50 mlynedd ac yn cael ei dangos am awr bob nos Sul, dair blynedd o’r sgript i’r sgrin. Gwnaethpwyd cynllunio hirdymor o’r fath yn bosib gan drefn ariannu warantedig.

“Yr ail reswm dros gael fformiwla statudol oedd sicrhau fod annibyniaeth Awdurdod S4C rhag ymyrraeth wleidyddol yn cael ei ddiogelu mewn cyfraith. Cadwyd materion sensitif annibyniaeth olygyddol a pholisi cynnwys hyd braich oddi wrth wleidyddion gan fformiwla o’r fath.

“Drwy wneud i ffwrdd â’r fformiwla amddiffynnol hon mae’r Gweinidog wedi cymryd arno’i hun y grym i reoli ffrwd ariannu darlledwr gwasanaeth cyhoeddus. Tra bod y fath newid un-frawddeg yn ymwneud â gwasanaeth teledu iaith leiafrifol o ddiddordeb ymylol yn unig efallai i newyddiadurwyr a gwasanaethau newyddion yn y DU, dylent feddwl am oblygiadau egwyddor hanfodol o annibyniaeth i ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus ar draws y DU.

“S4C wythnos hon – y BBC nesaf? Dw’i wedi bod yn y busnes ddigon hir i gofio’r her i ryddid gwybodaeth ac i gyflwr newyddiaduraeth ymchwiliol o fewn y BBC pan ddalwyd y Gorfforaeth yn y frwydr flynyddol am ei hincwm o ffi’r drwydded.

“Mae’r BBC yn wir ffodus bod ganddynt fformiwla ariannu ddeng mlynedd ond mae’n dod i ben yn 2013.

“Y neges glir o’r newid ddoe yn fformiwla ariannu S4C yw – byddwch yn wyliadwrus!”

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?