S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyflwyno llun arbennig Y Porthmon i Ysgol y Bannau

01 Hydref 2010

 Mae cyflwynwyr Y Porthmon wedi rhoi llun arbennig i Ysgol Y Bannau yn Aberhonddu er mwyn dathlu ail-greu’r daith arbennig ar S4C yn yr haf.

Y ffotograffydd Keith Morris oedd yn gyfrifol am greu’r llun terfynol o’r porthmon, Dafydd Isaac, gan ddefnyddio lluniau o’r wythnos gyfan – ar hyd y daith ac yn y digwyddiadau min nos. Dadorchuddiwyd y llun ar ddiwedd y gyfres.

Cyflwynodd Shân Cothi y campwaith i Emyr Jones, Pennaeth Ysgol Y Bannau, a’r disgyblion ddydd Gwener, 1 Hydref am 14:00.

Bydd Ysgol y Bannau yn cynnal digwyddiadau arbennig i godi arian at elusen Amser Justin Time – elusen er cof am ddiweddar ŵr Shân Cothi, Justin Smith.

'Nôl ym mis Mehefin, roedd cyfres o raglenni nosweithiol ar S4C yn dilyn taith arbennig y cyflwynydd Ifan Jones Evans wrth iddo ail-greu siwrnai’r porthmon Dafydd Isaac – dros 100 milltir o Fachynlleth i Aberhonddu mewn pum diwrnod.

Wrth i Ifan grwydro cefn gwlad Cymru gyda’i braidd o ddefaid yng nghwmni'r bugail Erwyd Howells, roedd Shân Cothi yno i'w groesawu yn y cymunedau amrywiol ar hyd y daith. Cynhaliwyd digwyddiadau arbennig, yn gweddu i gyfnod y porthmyn, ymhob lleoliad, gan gynnwys Twrnamaint Gemau Traddodiadol, Treialon Cŵn Defaid a Ffair y 1930au.

Ar ddiwedd y daith, cynhaliwyd cyngerdd arbennig yn Aberhonddu gyda pherfformiadau gan seren X Factor Rhydian Roberts a’r delynores Catrin Finch.

Diwedd

 

 

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?