S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyfarwyddwr Comisiynu S4C yn ymddiswyddo

15 Hydref 2010

 Mae S4C wedi cadarnhau fod Cyfarwyddwr Comisiynu’r Sianel, Rhian Gibson wedi ymddiswyddo.

Fe ymunodd gydag S4C yn 2006 ac yn ystod y cyfnod bu’n gyfrifol am gomisiynu rhai o raglenni a chyfresi mwyaf poblogaidd a llwyddiannus y Sianel, gan gynnwys cyfresi am ddigwyddiadau a chymunedau, ystod eang o chwaraeon, a chyfresi drama fel Teulu a Phen Talar.

Roedd Rhian hefyd yn gyfrifol am gynllunio strategaeth rhaglenni ar gyfer y trosglwyddo i’r oes ddigidol, ac am gyflwyno Clic, gwasanaeth gwylio ar-lein S4C. Un o’r datblygiadau pwysicaf a ddigwyddodd yn ystod ei chyfnod yn Gyfarwyddwr Comisiynu oedd sefydlu Cyw, y gwasanaeth i blant bach a Stwnsh i blant hyn.

Mewn datganiad, dywedodd Rhian bod cyfnod newydd yn wynebu S4C a’i bod yn dymuno’n dda i’r Sianel a’r cwmnïau cynhyrchu ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd John Walter Jones, Cadeirydd S4C, ei fod yn parchu penderfyniad Rhian ac yn diolch iddi am ei gwasanaeth a’i chyfraniad dros y pedair blynedd diwethaf.

Bydd gan S4C ddim sylw pellach ar hyn o bryd.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?