S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Tocynnau’n gwerthu allan i gyngerdd S4C

22 Hydref 2010

 Mae mwy o docynnau wedi'u rhyddhau ar gyfer cyngerdd arbennig S4C sy'n dathlu rhai o dalentau mwyaf Cymru ac sy'n cael ei gyflwyno gan seren The One Show, Alex Jones, yn Arena Ryngwladol Caerdydd ar ôl i'r tocynnau gwreiddiol werthu allan.

Bydd y tocynnau ychwanegol ar gael o ddydd Gwener (22 Hydref) ac yn rhad ac am ddim i'r rheini sydd eisiau mynychu'r noson llawn adloniant yng Nghaerdydd ar nos Sul, 24 Hydref.

Yn ystod y gyngerdd, bydd Alex - un o wynebau mwyaf adnabyddus S4C - yn cyflwyno perfformiadau gan seren X Factor, Rhydian Roberts, Sophie Evans - ddaeth yn ail yng nghyfres talent y BBC, Over the Rainbow a Shaheen Jafargholi, o Britain's Got Talent 2009 ganodd yng nghyngerdd coffa Michael Jackson.

Meddai Alex, "Mae Cyngerdd Mawr Talent Cymru yn gyfle gwych i weld yr amrywiaeth arbennig o dalent o dan yr un to - dwi ddim wedi synnu fod y tocynnau i gyd wedi gwerthu allan. Mae'n fraint arbennig ifi i fod yn cyflwyno'r noson a pherfformiadau'r unigolion a'r grwpiau - bob un ohonynt wedi gwneud yn arbennig o dda yn rhaglenni talent dros y blynyddoedd diwethaf. Mae mwy o docynnau bellach ar gael. Ond bydd yn rhaid ymateb yn gyflym iawn i wneud yn siŵr bod tocyn gyda chi i'r dathliad o dalent Cymru - fe fydd hi'n noson fyth-gofiadwy!"

Ychwanega Rhydian, "Rwy'n hynod o falch fod gymaint o gefnogwyr - o bob cwr o Brydain - yn dod i Gymru i fwynhau arddangosfa arbennig o dalent Cymraeg. Mae'r noson yn addo fod yn ddathliad arbennig o adloniant pur gyda chymaint o berfformiadau gwych. Archebwch eich tocynnau nawr cyn iddyn nhw ddiflannu!"

Ymhlith yr artistiaid eraill fydd yn perfformio ar y noson mai Mark Evans (Your Country Needs You), Tara Bethan (I'd Do Anything), Ysgol Glanaethwy (Last Choir Standing) a Laura Sutton (Stars in Their Eyes). Bydd grwpiau dawns hefyd yn codi'r to, gan gynnwys Jukebox Juniors, Eclipse (Got to Dance, Sky 1) a Starburst (Britain's Got Talent).

I archebu eich tocyn ewch i www.livenation.co.uk/cia neu ffoniwch swyddfa docynnau Arena Ryngwladol Caerdydd ar 029 2022 4488. Bydd y gyngerdd yn cael ei darlledu ar S4C dros y Nadolig.

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?