S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dau enwebiad Promax UK i S4C

26 Hydref 2010

   Mae S4C wedi’i henwebu mewn dau gategori yng Ngwobrau Promax UK, sy’n gwobrwyo yn niwydiant marchnata a hyrwyddo teledu’r Deyrnas Unedig.

Trel chwaraeon yr Haka sydd wedi derbyn enwebiad yng nghategori Y Trel Chwaraeon Gorau. Daw’r enwebiad bythefnos ar ôl iddo ddod i’r brig yng Ngwobrau Georges Bertellotti Golden Podium, sef un o wobrau mawreddog y diwydiant darlledu chwaraeon yng nghynhadledd Sportel.

Roedd yr hysbyseb yn hyrwyddo darllediadau’r Sianel o gemau criced ugain pelawd Morgannwg ac uchafbwyntiau rygbi o daith haf Cymru i Seland Newydd. Yn y trel, gwelwyd dyfarnwyr criced yn ail greu’r Haka gan ddefnyddio arwyddion dyfarnwyr criced.

Mae’r Sianel, a fu'n gweithio ar y cyd gyda chwmni Mr Producer, hefyd wedi ennill enwebiad yn y categori Ymgyrch y Wasg / Cysylltiadau Cyhoeddus am yr ymgyrch gyfathrebu yn seiliedig ar hyrwyddo cyfres Y Porthmon, a ddarlledwyd ym mis Mehefin.

Cyfres o raglenni nosweithiol ar S4C oedd Y Porthmon yn dilyn taith arbennig y cyflwynydd Ifan Jones Evans wrth iddo ail-greu siwrne’r Porthmon Dafydd Isaac – dros 100 milltir o Fachynlleth i Aberhonddu.

Cynhelir Noson Wobrau Promax UK nos Wener 12 Tachwedd.

Diwedd

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?