S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C gwerth £90 miliwn i economi Cymru

04 Tachwedd 2010

      Mae effaith S4C ar economi Cymru bron gwerth £90 miliwn o bunnau eleni.

Dyma un o ganlyniadau adroddiad sydd wedi ei gyhoeddi gan y Sianel heddiw. Fe gafodd yr ymchwil gan gwmni DTZ ac Uned Ymchwil Economaidd Cymru Prifysgol Caerdydd ei gomisiynu gan Awdurdod S4C. Gwnaed asesiad tebyg yn 2007.

Mae’r canlyniadau hefyd yn nodi bod S4C yn allweddol bwysig i’r diwydiant cynhyrchu teledu yng Nghymru gyda’r Sianel yn gyfrifol am gynnal dros 2,100 o swyddi yn y sector annibynnol a meysydd eraill.

Ym myd hyfforddiant dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae S4C a’r cwmnïau cynhyrchu wedi buddsoddi bron £900,000 ar gynlluniau hyfforddiant ar y cyd gyda Skillset a Llywodraeth y Cynulliad.

Yn ôl John Walter Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C: “Mae’r adroddiad gan DTZ yn dangos yn glir y cyfraniad economaidd mae S4C yn ei wneud ar bob lefel yng Nghymru, yn hybu buddsoddiad mewn technoleg newydd a hyfforddi, yn ysgogi menter ac yn helpu i sicrhau sefydlogrwydd economaidd mewn cymunedau ledled Cymru.”

Darllen yr adroddiad yn ei gyfanrwydd (PDF)

Diwedd

 

 

 

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?