S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn hysbysebu am Brif Weithredwr newydd

03 Tachwedd 2010

 Mae Awdurdod S4C wedi dechrau ar y broses o benodi Prif Weithredwr newydd i’r sianel.

Mae cwmni recriwtio Odgers Berndston o Gaerdydd yn gyfrifol am y gwaith o hysbysebu’r swydd a pharatoi rhestr fer ar gyfer yr Awdurdod. Bydd yr hysbyseb yn ymddangos yn y Wasg yfory (Dydd Iau 4 Tachwedd).

Meddai John Walter Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, “Rydym wedi bod yn ffodus iawn o gael cyfathrebwr mor brofiadol ag Arwel Ellis Owen fel Prif Weithredwr dros dro. Penodi Prif Weithredwr parhaol yw’r cam nesaf yn y broses o sicrhau dyfodol cadarn a llwyddiannus i S4C.”

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?