S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Anabledd

02 Rhagfyr 2010

 Bydd S4C yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau’r Cenhedloedd Unedig ddydd Gwener, 3 Rhagfyr gydag amrywiaeth o raglenni a gweithgaredd cymunedol.

Mae’r sianel wedi dod ynghyd â phedwar darlledwr arall - BBC, ITV, Channel 4 a Sky – i roi pobl ag anableddau wrth galon yr amserlen rhaglenni am y dydd.

Mae’r darlledwyr yn gweithio gyda’i gilydd i nodi’r diwrnod fel rhan o’u hymroddiad fel aelodau o Rwydwaith Anabledd y Darlledwyr a’r Diwydiannau Creadigol.

Eglura Prif Weithredwr S4C Arwel Ellis Owen: “Fe wnaeth S4C lansio Cynllun Gweithredu Amrywiaeth yn gynharach eleni ac mae ein gwasanaeth rhaglenni ddydd Gwener, 3 Rhagfyr yn rhan o addewid y sianel i adlewyrchu cymdeithas yn ei holl amrywiaeth.

“Rydym yn gobeithio y bydd yr eitemau a’r rhaglenni yn tynnu sylw at rai o’r materion sy’n gysylltiedig ag anabledd ac yn cyfleu’r dewrder a’r penderfyniad sy’n gwneud profiadau personol pobl ag anableddau yn berthnasol inni gyd.”

Mae arlwy S4C yn cynnwys eitemau diddorol yn rhaglenni cylchgrawn y sianel, Wedi 3 a Wedi 7.

Bydd y sioe brynhawn Wedi 3 yn dilyn Marvis Thomas o Frynaman wrth iddi fynd ar gwrs cyfrifiadurol a bydd y rhaglen nos Wedi 7 yn cwrdd â Thîm Pêl-droed Byddar Cymru.

Yn ddiweddarach gyda’r nos, bydd cyfle arall i fwynhau’r rhaglen ddogfen O’r Galon am Frank Letch. Fe gafodd ei eni heb freichiau, ond dyw ei anabledd heb atal y Cymro rhag mwynhau bywyd llawn sydd yn cynnwys cael ei ethol yn Faer Tref Crediton, Dyfnaint yn 65 oed.

Mae sioe S4C i'r plant ieuenga’ Nadolig Cyw a’i Ffrindiau yn darparu Dehonglydd Iaith Arwyddo Prydain yn y perfformiadau yn Y Stiwt, Rhosllannerchrugog ger Wrecsam ddydd Gwener.

Dydd Gwener, 3 Rhagfyr – Amserlen S4C

Wedi 3 am 15:00, ar gael gydag isdeitlau Saesneg

Wedi 7 am 19:00, ar gael gydag isdeitlau Saesneg

O’r Galon: Frank Letch am 21:30, ar gael gydag isdeitlau Saesneg a Chymraeg

Am fanylion pellach am Sioe Nadolig Cyw, cysylltwch â Gwifren Gwylwyr

S4C, 0870 6004141 (Ni ddylai galwad gostio mwy na 6c y funud o linell BT).

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?