S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Hwb ddiwedd y flwyddyn i ffigyrau gwylio S4C

23 Rhagfyr 2010

Mae bron i filiwn o bobl wedi bod yn gwylio S4C dros y pedair wythnos ddiwethaf, gyda 400,000 ychwanegol tu allan i Gymru.

Mae’r newyddion da ynglŷn â ffigyrau gwylio S4C yn dod ar ddiwedd blwyddyn pryd mae’r sianel wedi gweld cynnydd yn nifer gwylwyr rhaglenni 2010, i’w gymharu â 2009.

Nid yw’r cynnydd yn ffigyrau gwylio S4C wedi’u cyfyngu i Gymru yn unig gyda 149,000 o bobl yn gwylio’r Sianel Gymraeg tu allan i Gymru. Mae'r ffigwr, i fyny 54% ar yr un cyfnod yn 2009, yn golygu bod 612,000 o bobl wahanol yn y DU yn gwylio S4C mewn unrhyw wythnos yn 2010.

Ymysg y rhaglenni mwyaf poblogaidd gyda’r gynulleidfa yn ystod y flwyddyn oedd Pobol y Cwm ac Only Men Aloud.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae’r opera sebon ddyddiol, Pobol y Cwm, a gynhyrchir gan BBC Cymru Wales, wedi derbyn ei ffigyrau gwylio gorau ers 2006. Mae’r un peth yn wir am Ffermio, cyfres ffermio wedi’i chynhyrchu gan Teledu Telesgop. Mae’r gyfres adloniant Noson Lawen, cynhyrchiad Cwmni Da, hefyd wedi denu eu ffigyrau gwylio gorau ers 2007.

Mae rhaglenni’r cerddorion o fri Only Men Aloud dros y flwyddyn ddiwethaf hefyd wedi taro deuddeg gyda 535,000 o bobl ar draws y Deyrnas Unedig. Gwnaeth gwylwyr fwynhau rhaglenni’r côr, gan gynnwys y gyfres Only Men Aloud, sydd bellach wedi’i chomisiynu am ail gyfres yn 2011, y rhaglen ddogfen Only Men Aloud: O Dredegar Newydd i Efrog Newydd wnaeth ddilyn y bois i UDA a chyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd, ‘Adre’n Ôl’.

Cafodd yr arlwy ar-lein hwb gyda chynnydd yn ystod y deuddeg mis diwethaf. Hyd yma eleni, mae gwefan S4C wedi derbyn 1.8 miliwn o ymweliadau, tra bod y gwasanaeth rhaglenni ar alw, Clic, i fyny 52% ar yr un cyfnod yn 2009.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?