S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn cadarnhau Ian Jones fel Prif Weithredwr

18 Hydref 2011

 Mae Awdurdod S4C wedi cadarnhau penodiad Ian Jones fel Prif Weithredwr newydd y Sianel.

Mae Ian Jones yn un o reolwyr mwyaf profiadol y byd teledu ym Mhrydain a’r Unol Daleithiau wedi gweithio yn y diwydiant ym Mhrydain a thramor ers bron 30 mlynedd. Mae ganddo brofiad eang ar draws darlledu, cynhyrchu, cyd-gynyrchiadau a theledu rhyngwladol. Ar hyn o bryd mae’n Rheolwr Gyfarwyddwr, Dosbarthu Cynnwys a Datblygiad Masnachol, cwmni A+E Television Networks, yn gweithio o Efrog Newydd.

Bydd yn dechrau yn ei swydd newydd fan bellaf erbyn 22 Ebrill, 2012 ar ôl cwblhau unrhyw ymrwymiadau i’w gyflogwyr presennol AETN. Yn y cyfamser, bydd Arwel Ellis Owen yn parhau i weithredu fel Prif Weithredwr dros dro.

Roedd Ian, sy’n dod yn wreiddiol o Dreforys, Abertawe, yn rhan o’r tîm lansiodd S4C ym 1982 ac ar ôl gweithio yn adran adloniant rhwydwaith ITV ac fel cynhyrchydd annibynnol ail-ymunodd ag S4C fel Cyfarwyddwr Busnes, S4C Rhyngwladol a Chyd-gynyrchiadau o 1992 i 1997. Ers hynny bu’n gweithio fel rheolwr a chyfarwyddwr i Scottish Television, United News and Media (ITEL) a Granada International. Bu’n Gadeirydd Cymdeithas Dosbarthu Diwydiant Teledu Prydain (British Television Distribution Industry Association) am ddwy flynedd. Rhwng 2004 a 2007 roedd yn Llywydd National Geographic Television International, cyn mynd yn Rheolwr Gyfarwyddwr i’r Target Entertainment Group.

Fe’i penodwyd i’w swydd bresennol flwyddyn yn ôl. A+E Television Networks yw un o gwmnïau teledu cebl mwyaf llwyddiannus yr Unol Daleithiau.

Mae penodiad Ian Jones yn dilyn proses o chwilio proffesiynol gan Awdurdod S4C.

Meddai Huw Jones, Cadeirydd yr Awdurdod, “Mae Ian Jones wedi cael gyrfa ddisglair tu hwnt yn y byd teledu rhyngwladol, ers iddo gael ei ddenu o S4C nôl yn 1997. Dwi’n falch dros ben ei fod wedi teimlo fod yr her sy’n wynebu S4C yn ystod y blynyddoedd nesaf yn un gynhyrfus a deniadol, a’i fod am ddod yn ôl i’w rhannu gyda ni. Dwi’n sicr y bydd ei brofiad helaeth ac amrywiol, ei ddealltwriaeth ddofn o’r hyn sy’n creu gwasanaeth teledu llwyddiannus, a’i enw da am lunio partneriaethau effeithiol, o fantais fawr i S4C wrth iddo gymryd yr awenau.”

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?