S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn cyhoeddi ei gemau byw o Uwch Gynghrair Corbett Sports Cymru

27 Ionawr 2012

 Mae S4C wedi cyhoeddi pa gemau byw o Uwch Gynghrair Corbett Sports Cymru y bydd y gyfres bêl-droed Sgorio yn ei dangos yn ystod y ddeufis nesaf.

Un o’r gemau mwyaf y bydd gêm gyntaf Bangor yn yr Uwch Gynghrair o’u stadiwm newydd yn Nantporth ar 4 Chwefror pan fyddant yn croesawu Prestatyn.

Wrth i’r Uwch Gynghrair ddychwelyd ar ôl y saib ganol gaeaf, mae’r gynghrair yn rhannu i ddwy adran o chwech.

Bydd y chwech uchaf yn chwarae ei gilydd ddwywaith yn ail hanner y tymor a’r chwech isaf yn chwarae ei gilydd ddwywaith cyn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor i benderfynu pwy fydd yn cipio’r safle olaf yng nghystadlaethau Ewrop.

Ar ddiwedd hanner cyntaf y tymor, roedd y pencampwyr Bangor ar ben y tabl gyda 50 pwynt, gyda’r Seintiau Newydd yn dynn ar eu sodlau ar 49 pwynt.

“Rydym yn edrych ymlaen yn arw at ddychwelyd i gemau’r Uwch Gynghrair a does dim gêm well i ddechrau na Bangor gartre’,” meddai cyflwynydd a sylwebydd Sgorio, Dylan Ebenezer.

“Roedd y gêm olaf yn Ffordd Farrar dros y Nadolig yn fythgofiadwy a bydd yr emosiwn a’r cyffro yn fawr wrth iddynt chwarae eu gêm gynghrair gyntaf yn eu cartre’ newydd.”

“Mae’n argoeli bod yn ail hanner cyffrous i’r tymor, gyda’r Seintiau Newydd, Llanelli a hyd yn oed Castell-nedd yn dal â gobaith o gipio’r bencampwriaeth.”

Ymhlith y gemau eraill i dynnu dŵr i’r dannedd yn y ras am bencampwriaeth mae Llanelli v Seintiau Newydd ddydd Sadwrn, 18 Chwefror a Bangor v Y Seintiau Newydd ddydd Sadwrn, 10 Mawrth.

Fe fydd y gêm rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin yn un ddifyr, gan hon fydd y tro cyntaf i Sgorio weld tîm Caerfyrddin ers i’r cyn chwaraewr rhyngwladol Mark Aizelwood gymryd yr awenau.

“Mae’n addo bod yn ail hanner cyffrous iawn i’r tymor. Mae pedwar tîm yn dal yn y ras am y teitl, gan fod Castell-nedd yn dal i obeithio,” meddai Dylan.

“Dwi’n meddwl mai Bangor aiff â hi yn y diwedd a chadw’r teitl - ond mae’n dibynnu ar sut maen nhw’n setlo ar eu cae newydd. Mae’r tîm yma’n dibynnu llawer iawn ar benderfyniad ac ysbryd y garfan ac roedd awyrgylch Ffordd Farrar yn codi’r chwaraewyr.

“Os gallant ymgartrefu’n gyflym ar y cae newydd, fe ddylent ddal eu gafael ar y teitl, ond maen nhw’n wynebu her fawr gan Seintiau Newydd a Llanelli yn enwedig.”

Gemau Byw Sgorio – Uwch Gynhrair Corbett Sports Cymru

Chwefror a Mawrth 2012

Sadwrn 4 Chwefror 2012

Bangor v Prestatyn (cic gyntaf 15:45)

Sadwrn 11 Chwefror 2012

Aberystwyth v Caerfyrddin (cic gyntaf 15:45)

Sadwrn 18 Chwefror 2012

Llanelli v Seintiau Newydd (cic gyntaf 15:00)

Sadwrn 3 Mawrth 2012

Bangor v Castell-nedd (cic gyntaf 15:45)

Sadwrn 10 Mawrth 2012

Bangor v Seintiau Newydd (cic gyntaf 17:15)

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?