S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rasus i barhau

31 Ionawr 2012

Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd yn darlledu 18 awr o rasio harnais yn ystod y tymor sydd i ddod. Bydd y rhaglen Rasus, a gynhyrchir gan gwmni Slam Media, wedi ei selio ar bedwar digwyddiad, gyda dwy raglen o Ŵyl Tregaron a dwy o ddigwyddiadau eraill mewn lleoliadau gwahanol. Bydd y rhaglenni yn cael eu darlledu mewn Manylder Uwch am y tro cyntaf ac ar gael ar wasanaeth Clirlun yn ogystal â’r brif sianel.

Dywedodd Geraint Rowlands, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Rydym yn ymwybodol bod si ar led y byddai darllediadau Rasus yn dod i ben. Dyw hyn ddim yn wir. Mae’r cynlluniau eleni yn cymharu’n dda gyda’r 19 o oriau roedden ni wedi bwriadu ei ddarlledu yn 2011. Bydd darlledu ar Clirlun yn sicrhau y bydd ein gwylwyr yn gweld ac yn profi’r cyffro ar ei orau o bedwar lleoliad gwych.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?