S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cân i Gymru 2012 – rhowch gynnig arni

17 Tachwedd 2011

    Heddiw (17 Tachwedd) mae S4C yn lansio cystadleuaeth Cân i Gymru 2012 gyda gwahoddiad i gyfansoddwyr o Gymru a thu hwnt geisio am y wobr o £7,500 a’r anrhydedd o gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd flwyddyn nesaf.

Y cerddorion Steve Balsamo ac Ynyr Roberts oedd yn fuddugol yn 2011 gyda’r gân Rhywun yn Rhywle. Y gantores o Fochdre, Tesni Jones, oedd yn perfformio’r gân fuddugol ar y noson.

Eleni mae Ynyr yn annog ysgrifenwyr i geisio yn y gystadleuaeth, gan ddweud fod y profiad wedi bod o fudd i’w yrfa.

“Buaswn i yn argymell pobl i drio’r gystadleuaeth. Mae o wedi bod yn dda iawn i fy ngyrfa i fel ysgrifennwr achos mae o wedi rhoi cyfle i mi ysgrifennu ar gyfer pobl eraill ac wedi bod yn ffordd dda o ddatblygu cysylltiadau efo’r wasg a chyfansoddwyr a pherfformwyr eraill,” meddai, gan gyfaddef fod ennill y gystadleuaeth wedi bod yn uchelgais oes.

“Dwi wastad wedi isho ennill Cân i Gymru. Dwi wedi bod yn ffan o’r gystadleuaeth ers yr 80au ac mi fyddai yn bendant yn dilyn y cystadlu eto eleni,” meddai Ynyr.

Yn dilyn llwyddiant Rhywun yn Rhywle yn Cân i Gymru, profodd y gân fuddugoliaeth bellach yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon gan gipio’r wobr am y Gân Ryngwladol Orau.

Yn 2011 fe dderbyniodd Cân i Gymru fwy o geisiadau nag erioed o’r blaen ac mae’r trefnwyr yn obeithiol y bydd yr ymateb cystal, os nad gwell, eleni. Felly peidiwch ag oedi - mae’r dyddiad cau ar ddydd Llun 9 Ionawr.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan gyfansoddwyr ar ffurf CD, casét neu .mp3, ynghyd â ffurflen gais sydd ar gael gyda holl fanylion y gystadleuaeth ar wefan Cân i Gymru: s4c.co.uk/canigymru. Mae’n rhaid i gystadleuwyr fod dros 16 oed.

Bydd wyth cân yn cael eu dewis ar restr fer gan reithgor o arbenigwyr. Bydd yr wyth cân yn cystadlu mewn rhaglen fyw o Bafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid ar 4 Mawrth, 2012.

Yn ogystal â’r brif wobr, mae hefyd gwobr o £2,000 ar gyfer yr ail safle, a £1,000 i’r drydedd.

Cwmni Avanti sy’n cynhyrchu cystadleuaeth Cân i Gymru ar gyfer S4C. Am fwy o fanylion, cysylltwch ag Avanti ar 02920 838 149 neu canigymru2012@avantimedia.tv

Diwedd

 

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?