S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Meirion Davies i adael S4C

22 Chwefror 2012

 

Mae Meirion Davies, Pennaeth Cynnwys S4C, wedi penderfynu gadael y sianel a dychwelyd i'r sector gynhyrchu annibynnol.

Bu Meirion yn gweithio yn bennaf ym maes rhaglenni plant, adloniant a drama ac mewn nifer o swyddi gwahanol dros gyfnod o bron 20 mlynedd. Roedd yn gyfrifol am gomisiynu a golygyddiaeth ystod eang o raglenni S4C fel Rownd a Rownd, Gogs, Sali Mali, I Dot, Martha Jac a Sianco, Ar y Tracs, Patagonia a Teulu.

Dywedodd Meirion, "Rydw'i wedi bod yn ffodus i weithio gydag unigolion creadigol a thimau talentog iawn yn S4C ac yn y cwmnïau cynhyrchu dros y blynyddoedd, a dwi'n edrych ymlaen yn awr i adeiladu ar y profiad hwnnw a gweithio yn y sector annibynnol ym maes adloniant a chomedi. Hoffwn ddiolch i bawb yn S4C am fod mor gefnogol a dwi'n dymuno'r gorau i'r Sianel wrth iddi wynebu her y dyfodol."

Dywedodd Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, "Mae cyfraniad Meirion i S4C ac i'r byd creadigol yng Nghymru wedi bod yn enfawr, a dwi'n sicr y bydd ei brofiad a'i angerdd at ddarlledu yn gaffaeliad mawr i'r sector gynhyrchu annibynnol ac i S4C wrth i ni wynebu sialensiau'r dyfodol gyda'n gilydd."

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?