S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ian Jones, yn galw am ‘gystadleuaeth greadigol’ o fewn darlledu yng Nghymru

08 Mawrth 2012

Mae Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, wedi apelio am gydweithrediad y sector gynhyrchu annibynnol i symleiddio’r broses gomisiynu rhaglenni er mwyn creu mwy o sefydlogrwydd a chystadleuaeth greadigol o fewn y diwydiant darlledu yng Nghymru.

 

Mewn araith yng nghyfarfod blynyddol TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru) yn Aberystwyth heddiw, dywedodd Ian Jones fod ‘angen symud i ffwrdd o’r hen agwedd o ‘Fo a Fi’ a ‘Chi a Ni’ tuag at bartneriaethau creadigol iachach a mwy effeithlon.’

Pwysleisiodd Ian Jones y pwysigrwydd fod pawb yn y diwydiant - darlledwyr, comisiynwyr a chynhyrchwyr - yn edrych ymlaen at y dyfodol gyda’i gilydd.

Dywedodd fod S4C wedi cyhoeddi’r bwriad o symud i drefn gomisiynu newydd dan arweiniad Cyfarwyddwr Cynnwys a phedwar Comisiynydd Cynnwys. Dywedodd y byddai hon yn broses ddi-dor ac y byddai’n cymryd lle’r drefn bresennol o ffenestri comisiynu. Yn y strategaeth newydd, byddai arian yn cael ei glustnodi ar gyfer cwmnïau bach a thalent newydd. Cyhoeddodd Ian Jones hefyd ohiriad yn y broses dendro am y flwyddyn hon mewn achosion lle mae comisiynwyr yn hapus yn greadigol ac yn ariannol gyda chyfresi fydd yn cael eu darlledu yn 2012.

Cyhoeddodd Ian Jones fod trafodaethau wedi cychwyn gyda’r Gweinidog dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Ed Vaizey, i geisio ehangu cylch gorchwyl S4C i alluogi’r Sianel i weithio yn fwy yn y maes aml-gyfrwng. Roedd S4C hefyd yn awyddus i weld defnydd gwell yn cael ei wneud ar-lein o archif y Sianel. Gofynnodd Ian Jones i’r cwmnïau cynhyrchu gydweithio â S4C ar hyn.

Er mwyn i gwmnïau cynhyrchu gael mwy o adborth am eu rhaglenni, cynigiodd Ian Jones fod S4C yn rhannu elfennau o ganlyniadau ymchwil gyda’r sector.

Diwedd

Darllen yr araith

Nodiadau i olygyddion:

Bydd strategaeth gomisiynu newydd S4C yn golygu symud i ffwrdd o drefn goruchwylio golygyddol gyda phenderfyniadau comisiynu yn cael eu gwneud gan bwyllgor comisiynu at un sy’n canolbwyntio ar syniadau a thalent cyn comisiynu gyda phenderfyniadau yn cael eu gwneud gan unigolion. O dan y drefn newydd y comisiynwyr fydd yn gwneud y penderfyniadau comisiynu o dan arolygiaeth y Cyfarwyddwr Cynnwys. Bydd y comisiynwyr yn cydweithio’n agos â’r cynhyrchwyr yn y broses o drafod a meithrin syniadau cyn comisiynu er mwyn sicrhau mai’r syniadau gorau sydd yn cyrraedd y sgrin. Bydd y comisiynwyr yn comisiynu cynnwys ar gyfer rhaglenni a holl gynnwys aml-lwyfan S4C yn unol â strategaethau rhaglenni ac aml-lwyfan S4C. Y prif nod wrth wneud hyn yw symleiddio’r broses bresennol, gwneud penderfyniadau yn fwy cyflym a newid y pwyslais o oruchwylio i drafod a meithrin syniadau. Bydd y strwythur yn un sydd yn hybu partneriaethau a chydweithio ar draws y sector greadigol yng Nghymru a thu hwnt.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?