S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn penodi Cyfarwyddwr Cynnwys

08 Mawrth 2012

Mae S4C yn falch o gyhoeddi bod Dafydd Rhys wedi ei benodi’n Gyfarwyddwr Cynnwys y Sianel.

Mae Dafydd wedi cael gyrfa ddisglair yn y byd darlledu yng Nghymru. Fe ddechreuodd weithio gyda HTV ym maes plant ac adloniant a thrwy’r nawdegau bu’n gweithio yn S4C fel Golygydd Comisiynu a Chyfarwyddwr Darlledu.

Yn 1998 fe ymunodd â chwmni Antena cyn gadael yn 2000 i sefydlu cwmni Pop1, rhan o grŵp Tinopolis yn Llanelli. Dafydd yw cyfarwyddwr y cwmni, yn gyfrifol am strategaeth ddatblygu ac am redeg y cwmni o ddydd i ddydd.

Mae Pop1 wedi cynhyrchu rhaglenni fel Dic Jones - yn ei eiriau ei hun, Straeon Tafarn a’r rhaglenni Sopranos gydag Elin Manahan Thomas a’r llynedd fe enillodd un arall o gynyrchiadau’r cwmni, Ras yn Erbyn Amser, wobr Ysbryd yr Ŵyl yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd.

Dywedodd Dafydd, “Mae’r her sy’n wynebu S4C yn fawr ac mae angen cyfnod o gydweithio wrth edrych tua’r dyfodol, cydweithio gyda’r cwmnïau cynhyrchu, gyda’r BBC a gyda’n gwylwyr er mwyn sicrhau’r cynnwys a’r gwasanaeth gorau posib. Mae’n rhaid rhoi’r gwyliwr yng nghanol popeth da ni’n ei wneud yn S4C, mewn ffordd sy’n briodol gydag egwyddorion sylfaenol darlledwr cyhoeddus.”

Daw’r penodiad fel rhan o newid strwythur comisiynu S4C gyda Chyfarwyddwr Cynnwys a phedwar Comisiynydd Cynnwys fydd yn gyfrifol am gomisiynu cynnwys a gwasanaethau digidol aml-lwyfan.

Dywedodd Ian Jones y Prif Weithredwr: “Dwi’n falch iawn o benodi Dafydd i’r swydd allweddol hon. Mae’n berson profiadol a chreadigol iawn a dwi’n edrych ymlaen at gydweithio gydag e a’r tîm comisiynu wrth i ni wynebu sialensiau a chyfleoedd y misoedd a’r blynyddoedd nesaf. Cynnwys sy’n apelio ac yn berthnasol i’n gwylwyr sydd wrth wraidd ac wrth galon S4C a dwi’n hyderus y bydd Dafydd a’i dim yn mynd ati i hybu cydweithio ar draws y sector greadigol er mwyn creu’r rhaglenni a gwasanaethau gorau posib i’n gwylwyr.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?