S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Sêr Sion a Siân a Chwmderi yn dod i Gwmtawe

16 Ebrill 2012

Mae rhai o sêr amlycaf S4C yn ymweld ag ardal Cwmtawe.

Ar ddydd Llun, 23 Ebrill bydd Stifyn Parri a Heledd Cynwal yn cynnal noson Sion a Siân yng Nghlwb Rygbi Glanaman, ac ar ddydd Mawrth, 24 Ebrill bydd cyfle i drigolion Cwmtawe gystadlu mewn cwis gyda rhai o sêr Pobol y Cwm mewn noson arbennig yng Nghlwb Criced Ynystawe.

Dechreuodd y gyfres Sion a Siân ar ei newydd wedd ar S4C dros y Pasg ac mae Stifyn Parri a Heledd Cynwal wedi bod yn teithio i ardaloedd gwahanol yng Nghymru i roi blas o’r gyfres newydd i’r cyhoedd.

Bydd cyfle i ddau gwpwl o Gwmtawe i gystadlu yn erbyn ei gilydd i ennill gwobr ariannol ar ddydd Llun, 23 Ebrill am 7:30pm.

Yn ôl Stifyn Parri, “Dw i’n edrych ymlaen yn arw am y cyfle i fynd i gyfarfod â chymuned Cwmtawe. Rydw i a Heledd wedi cael hwyl ryfeddol yn ffilmio’r gyfres ac mae wedi bod yn grêt cyfarfod â nifer o gyplau gwahanol ar draws y wlad.”

Bydd cyfle ar nos Fawrth, 24 o Ebrill am 7:30pm i gwrdd â’r actorion tu ôl i rai o gymeriadau adnabyddus Pobol y Cwm mewn cwis arbennig gydag Emyr Wyn, sy’n chwarae rhan Dai Sgaffalde, yn cadw trefn ar y noson fel cwis feistr. Dyma gyfle i bobl Cwmtawe ddarganfod faint o wybodaeth gyffredinol sydd gan y cast am fywyd y tu hwnt i Gwmderi.

Yn ôl Ynyr Williams, Cynhyrchydd Pobol y Cwm, “Alla i ddim pwysleisio pa mor bwysig yw’r gwylwyr sy’ wedi bod yn dilyn Pobol y Cwm dros y blynyddoedd ac sy’n dal i wylio’r gyfres heddiw.

“Bydd y noson yn gyfle da i ni gwrdd a sgwrsio gyda’r gwylwyr mewn noson fydd yn llawn hwyl.”

Mae ymweliad S4C yng Nghwmtawe hefyd yn cynnwys taith ysgolion gyda chyflwynwyr y rhaglen Tag, Geraint Hardy ac Elin Llwyd, rhwng y 16 Ebrill a 4 Mai. Bydd y daith yn cynnig blas ar y rhaglen gylchgrawn sy’n cael ei ddarlledu ar S4C bob nos Wener am 5:30pm.

Bydd Eurig Salisbury, Bardd Plant Cymru yn ymweld ag ysgolion hefyd i weld sut feirdd yw disgyblion Cwmtawe.

Ymhlith y digwyddiadau eraill, mae noson Byw yn yr Ardd gyda Russell Jones, a llysgennad S4C yn y gymuned Chris Jones, yng Nghlwb Golff Treforys ar 19 Ebrill.

Ar nos Iau, 26 Ebrill bydd Noson Gwylwyr S4C yn gyfle i drigolion Cwmtawe i leisio eu barn am raglenni a gwasanaethau’r sianel a chyfarfod ag Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, a Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C.

Mae Noson Gwylwyr S4C yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe. Heledd Cynwal fydd yn arwain y noson gydag adloniant gan Gôr Cefnogwyr y Gweilch.

Mae rhagor o fanylion am y digwyddiadau ar safle Caban – s4c.co.uk/caban

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?