S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Martyn yn anelu at y targed yn hysbyseb newydd S4C

29 Mai 2012

 Mae disgwyl bydd un o hoelion wyth rygbi Cymru, Martyn Williams, yn ennill ei 100fed gap dros ei wlad pan fydd Cymru’n herio’r Barbariaid yn Stadiwm y Mileniwm ar 2 Mehefin.

Bydd y gêm yn cael ei ddarlledu’n fyw ar S4C ac i ddathlu’r achlysur, mae’r blaenasgellwr wedi ffilmio promo arbennig i’r sianel lle fydd yn ail-fyw un o hunllefau mwyaf ei yrfa rygbi.

Methodd Williams gic gosb mewn cystadleuaeth ciciau at y pyst dramatig yn rownd gynderfynol y Cwpan Heineken yn erbyn Caerlŷr yn 2009. Roedd yn gêm hanesyddol iawn am mai dyma’r tro cyntaf mewn gêm fawr iddynt orfod troi at giciau at y pyst yn dilyn amser ychwanegol lle’r oedd y timau yn gyfartal ar 26 - 26.

Yn yr hysbyseb ddychanol, bydd Martyn yn ail-greu’r gic yn y gobaith o ddileu’r atgofion drwg a bwrw’r targed. Mae’n llwyddo gyda’i gic ac mae’r gic mor bwerus mae’n achosi i’r bêl i hedfan allan o Stadiwm y Mileniwm, i fyny’r afon Taf cyn disgyn yn y Stadiwm SWALEC cyfagos, sef cartref clwb criced Morgannwg.

Mae’r promo ar sgrin yn hyrwyddo darllediadau rygbi a chriced y sianel ar 2 Mehefin. Gwyliwch y promo ar YouTube

Wedi’r chwiban olaf yn y rygbi, bydd S4C yn troi at griced ugain pelawd T20 byw wrth i Forgannwg herio Surrey (4.15pm). Bydd S4C hefyd yn darlledu tair gêm ugain pelawd Morgannwg ym mis Mehefin.

Mae Martyn Williams yn ymuno â chyn-gapten Cymru Gareth Thomas (sydd ar hyn o bryd yn un o sêr y gyfres boblogaidd cariad@iaith:love4language) a’r maswr dawnus Stephen Jones fel yr unig chwaraewyr i gipio 100 o gapiau dros Gymru.

Bydd yna achos i ddathlu yn ystod y gêm hefyd wrth i’r asgellwr, Shane Williams, chwarae ei gêm broffesiynol olaf o flaen torf Stadiwm y Mileniwm. Ni fydd y Dewin o’r Aman yn gwisgo’r crys coch ond yn hytrach yn chwarae yn erbyn ei ffrindiau wrth ymuno â charfan y Barbariaid, sy’n frith o sêr.

Gareth Roberts a Dot Davies fydd yn cyflwyno darllediadau cynhwysfawr Y Clwb Rygbi o’r frwydr rhwng Cymru a’r Barbariaid yn fyw ar S4C o 1.30pm.

Y Clwb Rygbi: Cymru v Barbariaid, Sadwrn 2 Mehefin 1.25pm

Criced: Morgannwg v Surrey, Sadwrn 2 Mehefin 4.15pm

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?