S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn cyfrannu at wefan newydd Cymdeithas Cerdd Dant

07 Mehefin 2012

 Mae S4C wedi cydweithio â Chymdeithas Cerdd Dant Cymru i ddarparu adnoddau fideo ar gyfer gwefan newydd y Gymdeithas.

Mae'r wefan newydd yn cynnwys clipiau fideo o Ŵyl Gerdd Dant Glannau Menai 2010 a ddarlledwyd yn fyw ar S4C.

Roedd y Gymdeithas wedi gofyn am gael defnyddio'r deunydd er mwyn dangos engreifftiau o Gerdd Dant. Mae Delyth Vaughan, Swyddog Gweinyddol Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, yn esbonio:

"Mae'r clipiau wedi eu rhoi ar y wefan newydd er mwyn dangos y gwahanol ffurfiau sydd erbyn hyn o ganu Cerdd Dant. Mae hefyd yn dangos sut mae'r grefft wedi esblygu ers y cyfnod cynnar o ddim ond unawdydd yn canu i ychwanegu dau, tri, phedwar llais a hyd yn oed côr," meddai Delyth.

"Bwriad y wefan yw rhoi ffenest siop ffres i ganu Cerdd Dant a symud y Gymdeithas ymlaen i'r unfed ganrif ar hugain."

Bydd S4C yn darlledu yn fyw o Ŵyl Gerdd Dant Sir Conwy 2012 sy'n cael ei chynnal ym mis Tachwedd.

Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, "Un o brif amcanion S4C yw adlewyrchu bywyd a digwyddiadau yng Nghymru gan gynnwys ein prif ddigwyddiadau diwylliannol fel yr Ŵyl Gerdd Dant.

"Rydym yn falch iawn o'r bartneriaeth gyda'r Gymdeithas sy'n golygu ein bod ni'n gallu rhannu deunydd yn y modd hwn, gan wneud y mwyaf o'n cynnyrch."

Gallwch wylio'r clipiau ar y wefan nawr

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?