23 Gorffennaf 2012
Mae S4C wedi cyhoeddi bod Catrin Roberts wedi ei phenodi yn Bennaeth Partneriaethau S4C. Mae gan Catrin dros ddeuddeng mlynedd o brofiad ym maes partneriaethau a gwleidyddiaeth, yn amrywio o weithio gydag aelodau Seneddol ac Ewropeaidd yn Llundain a Brwsel i fod yn Swyddog Ymgyrchu Ewropeaidd i’r RNIB. Yn fwy diweddar bu’n Gynghorydd Materion Cyhoeddus gyda’r BBC yn Llundain, yn Ymgynghorydd Cyfathrebu i BBC Worldwide ac, ers Chwefror 2011, bu’n Uwch Reolwr, Cyfathrebu Corfforaethol gyda BBC Cymru yng Nghaerdydd. Bydd yn ymuno â S4C ym mis Medi.
Meddai Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau S4C: “Mae’n bleser derbyn person mor brofiadol a thalentog â Catrin i S4C. Bydd y blynyddoedd nesaf yn llawn her i S4C a phrif gyfrifoldebau Catrin fydd cydweithio a chyfathrebu gyda gwleidyddion a gweision sifil yng Nghaerdydd a San Steffan yn ogystal â chryfhau a datblygu cysylltiadau S4C gyda phartneriaid a rhanddeiliaid yng Nghymru a thu hwnt.”