S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Prif Weithredwr S4C yn cynnal astudiaeth i’r posibilrwydd o ddatganoli’r sianel

30 Hydref 2012

Mae Prif Weithredwr S4C, Ian Jones, wedi comisiynu astudiaeth i ddichonoldeb lleoli’r sianel ar dri phrif safle ar draws Cymru yn lle un prif safle yng Nghaerdydd.

Yn ôl ym Mis Awst eleni yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg, datgelodd Mr Jones ei awydd i ddatganoli rhannau o S4C wrth daenu’r busnes ar draws 3 safle - un o bosib yn y gorllewin neu’r canolbarth yn ogystal ag un yn y de ac un yn y gogledd.

Nawr mewn erthygl ym mhapur newydd y Daily Post, mae Ian Jones wedi cyhoeddi bydd S4C yn symud ymlaen gyda’r syniad yn ffurfiol wrth i grŵp mewnol gynnal astudiaeth dichonoldeb. Fe ategodd hefyd ei benderfynoldeb i sicrhau bod buddiannau economaidd gwaith S4C yn cael eu rhannu ar draws pob rhan o Gymru lle bo hynny’n bosib.

Dywedodd Prif Weithredwr S4C Ian Jones:

“Mae S4C eisoes yn ymdrechu’n galed iawn i sicrhau bod arian sy’n cael ei wario ar raglenni yn cael ei wario ym mhob rhan o Gymru. Mae astudiaethau wedi dangos bod tua 2000 o swyddi’n cael eu cynnal gan ein gwaith drwy Gymru, ond dwi’n benderfynol o chwilio am gyfleoedd i wneud rhagor.

“Ar hyn o bryd, mae gan S4C ddau safle - ein pencadlys yn Llanisien yng Nghaerdydd a swyddfa lawer llai yng Nghaernarfon. Mae’r trefniant yma’n gweithio’n dda, yn arbennig pan ystyriwch fod dau o’n pump comisiynwyr yn gweithio yng Nghaernarfon. Felly gan ein bod yn gwybod ein bod yn gallu gweithio ar ddau safle’n llwyddiannus, pam na ddylid edrych ar bosibiliadau pellach i ddatganoli’n busnes.

“Un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu’n cymunedau drwy Gymru yw diffyg swyddi a chyfleoedd hyfforddi o fewn yr ardaloedd hynny. Os yw S4C yn gallu gwneud mwy i ddarparu gwaith lleol mewn mwy o ardaloedd, mae gen i ddiddordeb mawr mewn gweithio tuag at gyflawni hynny.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?